Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd
yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r
Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Dyraniadau Cyfalaf Dogfen
Ategol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng
Nghymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig: Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o
ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu
cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a
chyrff cyhoeddus. Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig: Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau
cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau
hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol. Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol
am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi
gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y
sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a
chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned
o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol. Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro
cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r
canllawiau priodol ac amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r
trydydd sector. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng
Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig: Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o
ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu
cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a
chyrff cyhoeddus. Derbyniwyd gwelliant 1 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig: Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau
cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau
hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol. Derbyniwyd gwelliant 2 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol
am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi
gwasanaethau cyhoeddus. Derbyniwyd gwelliant 3 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y
sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a
chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned
o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac
amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau
cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau
hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol. Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o
ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu
cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a
chyrff cyhoeddus. Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng
Nghymru. Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol
am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi
gwasanaethau cyhoeddus. Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y
sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a
chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned
o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac
amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adolygiad yr Athro McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o
Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi; 2. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro
McClelland; 3. Yn cydnabod bod angen: a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru; b) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu. Gellir gweld Adolygiad yr Athro McClelland o Wasanaethau
Ambiwlans Cymru drwy’r ddolen ganlynol: Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi â phryder: a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd,
Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd; b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan
wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf; c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys
Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd
ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol; d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu
rhyddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt
gyrraedd erioed wedi'i gyflawni; e) mae ambiwlansys wedi treulio bron 55,000 awr yn aros y
tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf; f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran
trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%. Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 3b) a rhoi'r canlynol yn ei le: ‘b) cyhoeddi amserlen glir ar gyfer sicrhau gwelliannau i
Wasanaethau Ambiwlans Cymru.’ Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel is-pwynt 3b) newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o
gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu; Gwelliant 4 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb
ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ym mis Mawrth 2013 mai 53% yn unig o alwadau
Categori A a gafodd ymateb o fewn wyth munud, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr
2010 ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A
wedi'i gyrraedd am ddeg mis yn olynol. Gwelliant 6 - William Graham
(Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu
archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers
2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n
llawn. Gwelliant 7 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd
i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a
staff. Gwelliant 8 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans
effeithlon a chadarn. Gwelliant 9 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau
ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a
chyhoeddi adroddiad perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn
cynnwys cerdyn sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.19 NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o
Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi; 2. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro
McClelland; 3. Yn cydnabod bod angen: a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru; b) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi â phryder: a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd,
Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd; b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan
wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf; c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys
Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd
ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol; d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu
ryddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt
gyrraedd erioed wedi'i gyflawni; e) mae ambiwlansys wedi treulio bron i 55,000 awr yn aros
y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf; f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran
trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%. Derbyniwyd gwelliant 1 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 3b) a rhoi'r canlynol yn ei le: ‘b) cyhoeddi amserlen glir ar gyfer sicrhau gwelliannau i
Wasanaethau Ambiwlans Cymru.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel is-pwynt 3b) newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o
gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu; Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb
ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd
ymateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth 2013, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010
ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i gyrraedd
am ddeg mis yn olynol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu
archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers
2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n
llawn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd
i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a
staff. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans
effeithlon a chadarn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy
ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad perfformiad
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn sgorio
perfformiad allweddol misol y weithrediaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1 Yn nodi â phryder: a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd,
Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd; b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan
wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf; c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys
Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd
ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol; d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu
ryddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt
gyrraedd erioed wedi'i gyflawni; e) mae ambiwlansys wedi treulio bron i 55,000 awr yn aros
y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf; f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran
trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%. 2. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o
Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi; 3. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro
McClelland; 4. Yn cydnabod bod angen: a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru; b)sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o
gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu; c) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu. 5. Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb
ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion. 6. Yn nodi mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd
ymateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth 2013, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010
ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i
gyrraedd am ddeg mis yn olynol. 7. Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu
archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers
2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n
llawn. 8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i
fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel
o'r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion
a staff. 9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans
effeithlon a chadarn. 10.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio
fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad
perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn
sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |