Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn dilyn Pwynt
o Drefn a nodwyd y diwrnod blaenorol gan Andrew RT Davies ynghylch sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog
yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Dywedodd y Llywydd
er bod Cwestiynau i’r Prif Weinidog
yn gyfle i Aelodau graffu ar waith y Prif
Weinidog ac y disgwylir dadlau gwleidyddol cadarn, mae’r Llywydd
yn disgwyl i Aelodau ymddwyn yn gwrtais, hyd
yn oed pan fydd y ddwy ochr
yn anghytuno ynghylch tystiolaeth. Atgoffodd Aelodau na ddylent
wneud sylwadau yn y Siambr sy’n
ymddangos fel petaent yn cwestiynu
uniondeb Aelod arall. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn
13 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 yn ymwneud â chyflwyno cwestiynau llafar y Cynulliad NDM5156 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog
12: Dyddiadau Cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2013; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiadau B
i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.55 NDM5156
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12: Dyddiadau Cau ar gyfer
cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 23 Ionawr 2013; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5147 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) David Rees (Aberafan) William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod
y manteision i Gymru o fod yn rhan
o’r Undeb Ewropeaidd. Cefnogwyd
gan: Eluned Parrott (Canol De Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Llyr Huws
Gruffydd (Gogledd Cymru) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Rhodri
Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin
a Dinefwr) Ieuan Wyn
Jones (Ynys Môn) Rebecca
Evans (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Lindsay
Whittle (Dwyrain De Cymru) Keith
Davies (Llanelli) Elin Jones (Ceredigion) Christine
Chapman (Cwm Cynon) Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ar ôl
‘Ewropeaidd’ ychwanegu ‘, ond yn nodi
bod angen ail-negodi telerau perthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd'. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
bod un Llywodraeth Lafur ar ôl
y llall yng Nghymru wedi methu’n
barhaus â defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i ddatblygu economi gref a chynaliadwy yng Nghymru. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
nad oes
neb o dan 55 oed yng Nghymru wedi
cael pleidlais ar berthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop. Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu
ymrwymiad Prif Weinidog y DU i gynnig refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr
Undeb Ewropeaidd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.56 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5147 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) David Rees (Aberafan) William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod
y manteision i Gymru o fod yn rhan
o’r Undeb Ewropeaidd.
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch-gynghrair Cymru NDM5155 Ann Jones
(Dyffryn Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Uwch
Gynghrair Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2012. Nodwch:
Gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 23 Ionawr 2013. Dogfennau ategol: Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.04 NDM5155
Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Uwch Gynghrair
Cymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2012. Nodwch: Gosodwyd
ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 23 Ionawr 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli
99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig. 2.
Yn mynegi pryder nad
oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn
ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. 3.
Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu
cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid. 4.
Yn cydnabod gwerth creu partneriaethau
rhwng Llywodraeth Cymru a banciau’r stryd fawr, neu
sefydliadau ariannol eraill, er mwyn
darparu cyllid cyhoeddus i fusnesau lleol yn effeithiol
ac yn effeithlon. 5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau’r cynigion sydd wedi’u
hamlinellu yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi
Cymru’ a, phan fo’n briodol, ystyried
eu hymgorffori yng nghymorth Llywodraeth
Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae
arolwg Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ar gael yn: http://www.fsb.org.uk/policy/rpu/wales/images/innovation%20strategy.pdf Mae
‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi
Cymru' ar gael yn: http://www.welshconservatives.com/invest-wales Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu ar
ddiwedd pwynt 3: ‘a deall anghenion
ariannol busnesau lleol’ Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn gresynu
wrth ddiffyg cynnydd Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg
arian i fusnesau
bach a chanolig. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo’r
pwyntiau’n unol â hynny: Yn nodi
adolygiad Llywodraeth Cymru o argaeledd cyllid ar gyfer
busnesau bach a chanolig yng Nghymru
ac yn gresynu wrth y diffyg cynrychiolwyr
o fusnesau bach a chanolig ar y panel cynghori. Gwelliant
4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n eiddo
i’r cyhoedd fel rhan o’i
hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle ac ystyried
rhinweddau cynnig cyllid drwy farchnad
Funding Circle, fel rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer
busnesau bach a chanolig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.02 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli
99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig. 2.
Yn mynegi pryder nad
oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn
ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. 3.
Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu
cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid. 4.
Yn cydnabod gwerth creu partneriaethau
rhwng Llywodraeth Cymru a banciau’r stryd fawr, neu
sefydliadau ariannol eraill, er mwyn
darparu cyllid cyhoeddus i fusnesau lleol yn effeithiol
ac yn effeithlon. 5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau’r cynigion sydd wedi’u
hamlinellu yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi
Cymru’ a, phan fo’n briodol, ystyried
eu hymgorffori yng nghymorth Llywodraeth
Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu ar
ddiwedd pwynt 3: ‘a deall anghenion
ariannol busnesau lleol’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn gresynu
wrth ddiffyg cynnydd Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg
arian i fusnesau
bach a chanolig. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo’r
pwyntiau’n unol â hynny: Yn nodi
adolygiad Llywodraeth Cymru o argaeledd cyllid ar gyfer
busnesau bach a chanolig yng Nghymru
ac yn gresynu wrth y diffyg cynrychiolwyr
o fusnesau bach a chanolig ar y panel cynghori. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n eiddo
i’r cyhoedd fel rhan o’i
hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle ac ystyried
rhinweddau cynnig cyllid drwy farchnad
Funding Circle, fel rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer
busnesau bach a chanolig.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli
99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig. 2.
Yn mynegi pryder nad
oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn
ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. 3.
Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu
cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid a deall anghenion ariannol busnesau lleol. 4.
Yn gresynu wrth ddiffyg cynnydd
Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg arian i fusnesau
bach a chanolig. 5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n
eiddo i’r cyhoedd fel rhan
o’i hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid. 6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle
ac ystyried rhinweddau cynnig cyllid drwy
farchnad Funding Circle, fel
rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer busnesau
bach a chanolig.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem
am 18.00 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5158 Leanne Wood (Canol De Cymru): Cymunedau Cymraeg
– y dyfodol Sicrhau parhad yr iaith
Gymraeg. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.04 NDM5158 Leanne Wood (Canol De Cymru): Cymunedau Cymraeg
– y dyfodol Sicrhau parhad yr iaith Gymraeg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |