Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno busnes ar 2 Ionawr 2013 NNDM5101 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn unol
â Rheol Sefydlog 33.6 a
33.8, yn atal: a) Rheol Sefydlog
12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon
ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael
eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a b) y rhan
honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn
ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael
eu cyflwyno o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eu
bod i gael eu hateb, er mwyn
caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb
ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu
cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013. 2. Yn cytuno y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu hatal ar ddydd Mercher 2 Ionawr yn unig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 NNDM5101 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal: a) Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a b) y rhan honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael eu cyflwyno o leiaf bum niwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, er mwyn caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013. 2. Yn cytuno y bydd
y Rheolau Sefydlog hyn yn cael
eu hatal ar ddydd Mercher
2 Ionawr yn unig.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
Cynnig Gweithdrefnol Cafwyd cynnig
trefniadol gan Andrew RT Davies yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl
fer. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5098 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r effaith negyddol y gall pwysau’r gaeaf ei chael ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol ac ar fywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru. 2. Yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i’w chwarae wrth liniaru ar unrhyw faich a roddir ar bobl ledled Cymru oherwydd pwysau’r gaeaf. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Strategaeth Pwysau’r Gaeaf ar draws portffolios i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith i fynd i’r afael â’r effaith a gaiff pwysau’r gaeaf ar fywydau yng Nghymru. 4. Yn credu y dylai fod gan un o Weinidogion Cymru gyfrifoldeb cyffredinol dros ymateb i ddigwyddiadau a allai godi oherwydd tywydd difrifol y gaeaf yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1: ‘ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynllunio yn unol â hynny
i ddelio â’r pwysau hynny’ Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau
lleol i ddatblygu strategaeth i warchod cymunedau rhag effeithiau tywydd garw yn ystod
y gaeaf. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r dirywiad sylweddol mewn amseroedd ymateb ambiwlansys yn ystod misoedd y gaeaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i sicrhau bod targedau ymateb yn cael eu cyrraedd drwy gydol y flwyddyn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.04 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5098 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r effaith negyddol y gall pwysau’r gaeaf ei chael ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol ac ar fywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru. 2. Yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i’w chwarae wrth liniaru unrhyw faich a roddir ar bobl ledled Cymru oherwydd pwysau’r gaeaf. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Strategaeth Pwysau’r Gaeaf ar draws portffolios i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith i fynd i’r afael â’r effaith a gaiff pwysau’r gaeaf ar fywydau yng Nghymru. 4.
Yn credu y dylai fod gan
un o Weinidogion Cymru gyfrifoldeb cyffredinol dros ymateb i ddigwyddiadau
a allai godi oherwydd tywydd difrifol y gaeaf yng Nghymru.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5099 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd hollbwysig cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i beidio â hybu na chytuno ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn golygu effaith andwyol ar Gymru a’n gallu i gryfhau economi Cymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth y DU’ a rhoi yn ei le ‘i negodi cyllideb gadarn ac effeithlon i ddiwallu anghenion ariannol Cymru, gan sicrhau economi sefydlog sy’n cefnogi cyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chyllid rhanbarthol.’ Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Cymru, er ei bod wedi cael mwy na £6 biliwn mewn cyllid Undeb Ewropeaidd rhwng 2000 a 2008, wedi mynd yn gymharol dlotach ac yn dal i fod yn un o’r rhanbarthau tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio cyllid yr Undeb Ewropeaidd er budd pobl Cymru. Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y trafodaethau ar y cylch nesaf o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd mewn cyfnod allweddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod budd cenedlaethol hirdymor, yn hytrach na chyfleustra gwleidyddol tymor byr, yn pennu’r agwedd at gyllideb gyffredinol yr Undeb Ewropeaidd. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i rewi cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar lefel gynaliadwy a chyflawni’r fargen orau i drethdalwyr Cymru. Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai’r ffordd orau y caiff buddiannau Cymru eu gwasanaethu mewn trafodaethau ar gyllideb yr Undeb Ewropeaidd yw trwy fod yn aelod o’r Deyrnas Unedig. Gwelliant 7 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i wneud defnydd llawn o gronfeydd strwythurol y dyfodol i ddatblygu economi gref a chynaliadwy yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5099 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd mawr cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i Lywodraeth y DU
i beidio â hybu na chytuno
ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn cael
effaith andwyol ar Gymru a’n
gallu i gryfhau economi Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5097 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sy’n golygu bod modd plismona’r Cod Gweinidogol yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig: ‘, gydag amserlen glir ar gyfer ymgynghori a gweithredu’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.55 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM5097 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sefydlu system sy’n
golygu bod modd plismona’r Cod Gweinidogol yn annibynnol ar
Lywodraeth Cymru a Chynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: ‘, gydag amserlen glir ar gyfer ymgynghori a gweithredu’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio
gan y Cynulliad, a chan na dderbyniwyd
y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem hon am 17.32 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5100 Andrew RT
Davies (Canol De Cymru): A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben? Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. Penderfyniad: NDM5100 Andrew RT
Davies (Canol De Caerdydd): A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben? Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau
canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd. |
|||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |