Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd cwestiynau 1-4, 6-11, 13 ac 14. Cafodd cwestiynau 5, 12 ac 15 eu tynnu yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:07. Gofynnwyd cwestiynau 1-5, 7 a 9–15. Cafodd cwestiynau 6 ac 8 eu tynnu yn ôl. Atebwyd cwestiwn 15 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i ddirymu Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 (Saesneg yn unig) NNDM4981 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol
Sefydlog 27.2 yn cytuno bod Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr)
2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mawrth 2012, yn cael eu dirymu. Dogfennau Ategol: Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 (Saesneg yn unig) Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:46. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Canlyniad y bleidlais: NNDM4981 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.2 yn cytuno bod Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mawrth 2012, yn cael eu dirymu.
Gwrthodwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM4965 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn colli golwg y mae modd ei osgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie James (Gorllewin Abertawe) Lynne Neagle (Tor-faen) Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Sandy Mewies (Delyn) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mick Antoniw (Pontypridd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Andrew RT Davies (Canol De Cymru) Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Nick Ramsay (Mynwy) Eluned Parrott (Canol De Cymru) Keith Davies (Llanelli) David Rees (Aberafan) Alun Ffred Jones (Arfon) Russell George (Sir Drefaldwyn) Byron Davies (Gorllewin De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:57. NDM4965 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd) Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru) Lindsay Whittle
(Dwyrain De Cymru) Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn colli golwg y mae modd ei osgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie James (Gorllewin Abertawe) Lynne Neagle (Tor-faen) Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Sandy Mewies (Delyn) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mick Antoniw (Pontypridd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Andrew RT Davies (Canol De Cymru) Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Nick Ramsay (Mynwy) Eluned Parrott (Canol De Cymru) Keith Davies (Llanelli) David Rees (Aberafan) Alun Ffred Jones (Arfon) Russell George (Sir Drefaldwyn) Byron Davies (Gorllewin De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Derbyniwyd y
cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4977 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnwys y papur ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ a gyflwynwyd i gabinet Llywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2012. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â rhannu ei bwriad â phobl Cymru tan nawr ynghylch dyfodol y GIG yng Nghymru. Gellir gweld ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ drwy fynd i: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetmeetings/4thassembly/13mar12/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Gwelliant 2 – Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion llawn y newidiadau arfaethedig ar y cyfle cyntaf er mwyn hwyluso dadleuon ar sail gwybodaeth ar lefel leol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:36. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4977 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnwys y papur ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ a gyflwynwyd i gabinet Llywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2012. 2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â rhannu ei bwriad â phobl Cymru tan nawr ynghylch dyfodol y GIG yng Nghymru. Gellir gweld ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ drwy fynd i: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetmeetings/4thassembly/13mar12/?skip=1&lang=cy
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion llawn y newidiadau arfaethedig ar y cyfle cyntaf er mwyn hwyluso dadleuon ar sail gwybodaeth ar lefel leol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Cynulliad
wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r
cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4978 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig ‘ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r Contract Ieuenctid sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn croesawu cymorth ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd. Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU. Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall. Gellir gweld y datganiad o Faniffesto Cynlluniad y Ffederasiwn Busnesau Bach, Mawrth 2011 drwy fynd i: http://www.fsb.org.uk/policy/rpu/wales/images/fsb%20wales%202011%20manifesto.pdf Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:25. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4978 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig ‘ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r Contract Ieuenctid sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn croesawu cymorth ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4978 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’. 2. Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU. 3. Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. 4. Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.29. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |