Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anna Daniel (Clerc) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Gwahoddir y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix):

 

Caiff bwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod.

 

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix).

 

2.

Y Pwyllgor Busnes

2(i)

Y Pwyllgor Busnes – Ffyrdd o Weithio

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei ffyrdd o weithio a chytunodd ar yr hyn a ganlyn:

 

    • i gyfarfod am 08.30 ar ddydd Mawrth yn ystod y tymor;

 

    • i gyfarfod yn breifat drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix) a chyfarfod â’r cyhoedd ar sail ad hoc i drafod materion trefniadol; ac

 

    • i gyhoeddi cofnodion cyfarfodydd preifat yn Saesneg ac yn Gymraeg o fewn wythnos iddynt gael eu cytuno gan y Pwyllgor.

 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Amserlen y Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi amserlen dros dro ar gyfer busnes y Cynulliad yn amlinellu:

 

    • yr amser sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid;

 

    • dyddiadau’r toriadau sydd wedi’u cadarnhau, fel a ganlyn:

 

      • SulgwynDydd Llun 30 Mai – Dydd Sul 5 Mehefin 2011
      • HafDydd Llun 18 GorffennafDydd Sul 18 Medi 2011
      • HydrefDydd Llun 24 HydrefDydd Sul 30 Hydref 2011

 

    • dyddiadau’r toriadau arfaethedig a ganlyn:

 

      • NadoligDydd Llun 12 Rhagfyr 2011 – Dydd Sul 8 Ionawr 2012
      • GwanwynDydd Llun 13 ChwefrorDydd Sul 19 Chwefror 2012

 

    • dyddiadau ar gyfer cwestiynau llafar.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r amseroedd ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau’r Cynulliad yn cael eu cyhoeddi pan gaiff system y pwyllgorau ei chytuno.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r grwpiau plaid ar:

 

    • ddyraniad amser rhwng busnes y Llywodraeth a busnes y Cynulliad; a’r

 

    • cynigion ar gyfer sut y caiff amser y Cynulliad ei ddefnyddio.

 

3(ii)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad i’w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai amser pleidleisio ddydd Mercher ddigwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

3(iii)

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor amserlen fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Cyfarfod Llawn ddechrau am 09.30 ddydd Mercher 8 Mehefin 2011 oherwydd amgylchiadau eithriadol.

 

3(iv)

Busnes y Cynulliad am weddill y tymor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai Dadleuon Byr gael eu cynnal rhwng 14 Mehefin a diwedd y tymor, ac y dylai balot gael ei gynnal i ddewis enwau’r Aelodau a all gyflwyno testunau i’w trafod tan ddiwedd Mehefin. Caiff dyddiadau’r Dadleuon Byr eu penderfynu gan y Pwyllgor Busnes ar 8 Mehefin.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi ystyriaeth pellach i sut y bydd amser y Cynulliad yn cael ei ddefnyddio am weddill y tymor ar 8 Mehefin.

 

4.

Pwyllgorau

4(i)

Sefydlu’r pwyllgorau a’u cylch gwaith

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur yn amlinellu opsiynau cychwynnol ar gyfer sefydlu system bwyllgorau y Pedwerydd Cynulliad, i’w thrafod ymhellach â’r grwpiau plaid. Caiff y papur ei drafod eto ar 14 Mehefin.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor y dylai pwyllgorau i drafod deisebau ac is-ddeddfwriaeth gael eu sefydlu cyn gynted â phosibl, a gofynnodd am ragor o wybodaeth am gylchoedd gwaith ac aelodaeth posibl erbyn y cyfarfod ar 8 Mehefin. Bydd y system bwyllgorau yn ei chyfanrwydd yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar 14 Mehefin.

 

5.

Deddfwriaeth

5(i)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Addysg

5(ii)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Lleoliaeth

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried dau bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil Seneddol ynghylch Addysg a’r Bil Seneddol ynghylch Lleoleiddio. Oherwydd nid oes unrhyw bwyllgorau wedi cael eu sefydlu i ystyried y memoranda hyn, cytunodd y Pwyllgor Busnes, o dan Reol Sefydlog 29.4, na ddylent gael eu cyfeirio at bwyllgorau i gael eu hystyried, felly byddant yn cael eu cyflwyno i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn.

5(iii)

Y trefniadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bapur mewn perthynas â nifer o Offerynnau Statudol a gyflwynwyd yn nyddiau olaf y Trydydd Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ddosbarthu adroddiad arbennig ar rinweddau gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol blaenorol ymhlith Aelodau’r Cynulliad i dynnu eu sylw at yr Offerynnau Statudol hyn.

6.

Busnes arall

6(i)

Cwestiynau llafar y Cynulliad: y weithdrefn ar gyfer cynnal balot

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefn newydd ar gyfer cyflwyno cwestiynau llafar i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau Sefydlog, lle bydd y Llywydd yn gyntaf yn cynnal balot i ddewis enwau’r Aelodau a fydd wedyn yn cael cyflwyno cwestiynau llafar. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r broses ar ddiwedd tymor yr haf.

6(ii)

Cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiynwyr y Cynulliad, i’w gytuno gan y Cynulliad ddydd Mercher.

6(iii)

Y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal y cyfarfod nesaf am 08.30 ar 8 Mehefin.

Trawsgrifiad

Dogfennau ategol: