Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol:

 

“Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 ac NNDM4722, y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny s gynigir yn y Bil Lleoliaeth mewn perthynas â Chynlluniau Blaendaliadau Tenantiaid a thrwyddedu HMOs, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

 

Cefndir

 

Mae Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol (NNDM4642 ac NNDM4722) yn ymwneud â'r Bil Lleoliaeth wedi'i gyflwyno eisoes yn y Cynulliad Cenedlaethol, a rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ei gydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil, i'r graddau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu hystyried gan y Senedd.

 

Mae’r Bil Lleoliaeth yn Bil Senedd y DU. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Senedd y DU

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Dogfennau