Cyfarfodydd
Blaenraglen waith
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/11/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran un
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
2.1. Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym
mhenodau'r Penderfyniad sy'n canolbwyntio ar wariant ar lety preswyl, costau
teithio a chostau swyddfa'r Aelodau, sy'n dod o dan ran un o'i adolygiad.
2.2. Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y materion a
godwyd yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 11/10/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
4.1.
Trafododd y Bwrdd yr
adborth a gafwyd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno a chytunodd i
ymgynghori at ddibenion newid y gweithdrefnau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn
cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y
Cynulliad.
4.2.
Y dyddiad cau ar gyfer yr
ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018.
4.3.
Cytunodd y Bwrdd i adolygu
Cod Ymddygiad y staff cymorth unwaith y bydd yr adolygiad sy'n cael ei gynnal
ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn cael ei gwblhau, a hynny er
mwyn sicrhau dull cyson lle bo angen.
Camau gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r
ymgynghoriad;
-
paratoi crynodeb o'r
ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried.
Cyfarfod: 05/07/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Effaith newid Arweinydd ar staff cymorth grŵp
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
3.1.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd
am y tribiwnlys cyflogaeth presennol.
Cyfarfod: 05/07/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Llywodraethiant Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
6.1.
Cytunodd y Bwrdd i
sefydlu corff dynodedig a fyddai'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran
staff cymorth.
6.2.
Hefyd, cytunodd y Bwrdd
ar y canlynol:
- byddai'r corff yn cynnwys y Pennaeth Pensiynau a
chynrychiolydd o'r Bwrdd a'r Comisiwn;
- a dylai gyfarfod yn flynyddol.
Cam
gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i sefydlu'r corff ac i hysbysu'r Bwrdd am ei weithgareddau.
Cyfarfod: 05/07/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Treuliau eithriadol: Trafod canllawiau a ffurflen gais
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
4.1.
Cytunodd y Bwrdd i
dreialu ffurflen gais newydd i'r Aelodau a hoffai wneud cais am dreuliau
eithriadol o dan adran 2.4 o'r Penderfyniad.
Camau
gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi'r ffurflen gais;
- monitro unrhyw adborth a geir am y ffurflen.
Cyfarfod: 05/07/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cwmpas yr adolygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
2.1.
Trafododd y Bwrdd gwmpas
adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad a chytunodd ar y
canlynol:
- y darpariaethau yn y Penderfyniad y gallai fod angen rhoi
sylw arbennig iddynt yn ystod yr adolygiad;
- sut gallai ddymuno grwpio'r materion a godwyd i'w
hystyried;
- trafod y dulliau mwyaf priodol o ymgysylltu â
rhanddeiliaid fesul achos.
2.2.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
goblygiadau rhaglen y Comisiwn ar gyfer diwygio'r Cynulliad i'r Penderfyniad
pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.
2.3.
Cadarnhaodd y Bwrdd ei
fwriad i gyhoeddi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn yr
etholiad cyffredinol.
2.4.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
rhaglen waith fanylach ar gyfer yr adolygiad yn ei gyfarfod nesaf.
Cam
gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi rhaglen waith fanwl i'r Bwrdd ei drafod yn ei
gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 24/05/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
4.1.
Trafododd
y Bwrdd y materion a godwyd fel rhan o'i adolygiad canol tymor a chytunodd ei
fod yn fodlon â gwaith gweithredu mewnol y Bwrdd.
Cam
gweithredu
Y
Bwrdd i gynnal adolygiad llawn o'i effeithiolrwydd tuag at ddiwedd ei dymor.
Cyfarfod: 24/05/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i'w thrafod: Polisi Urddas a Pharch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
5.1.
Nododd
y Bwrdd y Polisi Urddas a Pharch diwygiedig a gafodd ei gymeradwyo gan y
Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 16 Mai.
5.2.
Gan
fod y Polisi wedi'i gymeradwyo, cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau y mae'n
gyfrifol amdanynt. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar
ôl i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gwblhau ei ymchwiliad i'r Adolygiad o'r Cod Ymddygiad
i Aelodau’r Cynulliad.
Cam
gweithredu
Yr
ysgrifenyddiaeth i roi gwybod i'r grwpiau cynrychioliadol am y gwaith y bydd y
Bwrdd yn ei wneud.
Cyfarfod: 15/03/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Adolygu strategaeth y Bwrdd flwyddyn yn ddiweddarach
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
4.1.
Adolygodd
y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn erbyn
y pedair blaenoriaeth strategol y cytunwyd arnynt yn ei adroddiad ym mis Ionawr
2017.
Cam
gweithredu:
Y
Bwrdd i gyhoeddi crynodeb o'i benderfyniad yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer
2017-18.
Cyfarfod: 25/01/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i'w thrafod: Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Creu Senedd sy'n Gweithio i Gymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
6.1
Trafododd
y Bwrdd adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: ‘Senedd
sy'n gweithio i Gymru’, a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am fwriadau’r
Comisiwn o ran bwrw ymlaen â’r gwaith.
6.2
Cytunodd
y Bwrdd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac unrhyw benderfyniad
dilynol i gyflwyno deddfwriaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyn ystyried y
goblygiadau ar ei waith.
Cyfarfod: 23/11/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i’w thrafod: Y trefniadau ar gyfer hysbysu am ymddygiad amhriodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
2.1.
Cytunodd y
Bwrdd â’r datganiad gan y Llywydd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac
arweinwyr y grwpiau plaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru nad oes lle i
unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.
2.2.
Nododd y Bwrdd
ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i weithio gyda’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i
ddatblygu Polisi Parch ac Urddas.
2.3.
Ar ôl
cwblhau’r gwaith hwn, bydd y Bwrdd yn ystyried a oes angen iddo ymgymryd ag
unrhyw waith pellach i gryfhau’r darpariaethau ar gyfer Staff Cymorth ar gyfer
ymdrin ag unrhyw gwynion rhwng aelodau staff, gan gynnwys yr un safonau tegwch,
trylwyredd a chefnogaeth fel mewn achosion sy’n ymwneud ag Aelodau.
Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Cyfarfod Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
4.1.
Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad, a Helen Finlayson,
Clerc y Panel, i'r cyfarfod.
4.2.
Rhoddodd yr Athro McAllister ddisgrifiad o waith y Panel, a allai fod yn
berthnasol i Benderfyniad y Bwrdd ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i drafod goblygiadau adroddiad y Panel ac
unrhyw gynigion deddfwriaethol y gallai'r Comisiwn eu cyflwyno, o safbwynt
blaenraglen waith y Bwrdd.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch y materion diweddaraf a godwyd gyda'r tîm Cymorth Busnes i Aelodau a rhaglen waith y Bwrdd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
3.1
Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn
amlinellu'r gwaith y bwriadwyd ei gynnal a'r penderfyniad allweddol y byddai
angen ei wneud yn fuan. Trafododd y Bwrdd y rhaglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn/tymor yr haf 2016.
3.2
Mynegodd aelodau'r Bwrdd eu barn
ynghylch y sesiwn galw heibio a gynhaliwyd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 6
Gorffennaf. Cytunodd y Bwrdd ei fod yn ymarfer defnyddiol ac y dylai gael ei
ailadrodd yn y dyfodol er mwyn gwella'r berthynas ag Aelodau'r Cynulliad.
Deddf Menter 2016
3.3
Trafododd y Bwrdd oblygiadau Deddf
Menter 2016. Mae'r Ddeddf yn gosod cyfyngiad ar “daliadau ymadael” i Aelodau'r
Cynulliad ac aelodau o Lywodraeth Cymru ymysg eraill. Yn ei gyfarfod blaenorol,
cytunodd y Bwrdd i fonitro'r trafodaethau ynghylch sut y bydd y trefniadau o
dan y Ddeddf yn gweithio'n ymarferol ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn
gyson.
3.4
Yn amodol ar yr ymateb i faterion a
godir gan y Llywydd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cytunodd y Bwrdd
i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau i
fynegi ei phryderon ynghylch y ddarpariaeth yn Rhan 9 o'r Bil, sy'n gwrthdaro â
chylch gorchwyl y Bwrdd Taliadau a phaneli taliadau eraill yn y DU.
3.5
Cytunodd y Bwrdd fod amddiffyn
annibyniaeth y Bwrdd yn un o ofynion y ddeddfwriaeth a sefydlodd y Bwrdd.
Pensiynau
3.6
Nododd y Bwrdd fod rheolau'r cynllun
pensiwn terfynol, gan gynnwys y gyfradd cyfrannu y cytunwyd arni gan y Bwrdd,
wedi cael eu cymeradwyo gan Drysorlys EM.
3.7
Mae cynnwys rheolau'r cynllun
pensiwn newydd wedi cael eu cyfathrebu i Aelodau'r Cynulliad yn y ddogfen 'Y
Cynllun Pensiwn newydd - beth y mae angen i chi ei wybod'.
Dyddiadau cyfarfodydd
3.8
Cytunodd y Bwrdd i drafod dyddiadau
cyfarfodydd ar ôl Mawrth 2017. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cynnig dyddiadau i
aelodau'r Bwrdd yn ystod mis Mai, Gorffennaf, Medi a Thachwedd 2017 a mis
Ionawr a Mawrth 2018.
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf ac ystyried rhaglen waith y Bwrdd
·
Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Rhaglen Waith – Papur 2
Cofnodion:
2.1
Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn
amlinellu'r gwaith y bwriadwyd ei wneud a'r penderfyniad allweddol y byddai
angen ei wneud yn fuan. Trafododd y Bwrdd y rhaglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn/tymor yr haf 2016.
Y Bil Menter
2.2
Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r
trafodaethau ynghylch y Bil Menter.
2.3
Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad wedi
cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, yn sgil sicrwydd gan y Gweinidog
Gwasanaethau Cyhoeddus na fyddai'r Llywodraeth yn ceisio arfer y pŵer hwn.
2.4
Mynegodd y Bwrdd bryderon
ynglŷn â'r egwyddor nad oedd y Bil yn adlewyrchu rôl y Bwrdd Taliadau na'i
gylch gwaith yng Nghymru.
Cam gweithredu:
·
Cytunodd y Bwrdd i
fonitro'r trafodaethau ynghylch sut y bydd y trefniadau o dan y Bil yn
gweithio'n ymarferol ac i ofyn am ddiweddariad gan y Llywydd ynglŷn ag
unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Trysorlys.
Pensiynau
2.5
Nododd y Bwrdd fod Trysorlys Ei
Mawrhydi yn ystyried y cynllun pensiwn terfynol ac mai'r disgwyl oedd i'r
cynllun gael ei gymeradwyo'n ffurfiol dros yr wythnosau nesaf.
2.6
Yn dilyn trafodaethau rhwng Michael
Redhouse ac Adran Actiwari’r Llywodraeth, cytunodd y Bwrdd i roi'r cyngor i'r
Adran Actiwari y dylai'r cynllun pensiwn newydd fod â chyfradd cyfraniadau o
10.5 y cant ar gyfer Aelodau a 15.6 y cant ar gyfer Comisiwn y Cynulliad.
Byddai'r cynllun terfynol i'w gymeradwyo gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn
adlewyrchu hyn.
2.7
Nododd y Bwrdd fod y broses o
recriwtio Cadeirydd annibynnol ar gyfer Bwrdd Pensiynau newydd Cynllun Pensiwn
Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddi. Er mai Michael Redhouse
oedd cynrychiolydd y Bwrdd ar y panel recriwtio, nododd y Bwrdd fod angen iddo
benodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn ffurfiol yn dilyn yr ymarfer recriwtio.
Disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad
2.8
Nododd y Bwrdd yr ymatebion i ymgynghoriad y
tîm Cymorth Busnes i Aelodau ar ddisgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad, a fyddai'n eu helpu i wella'r broses recriwtio ac adlewyrchu'r
amrywiaeth o swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad yn y Grwpiau ac yn
swyddfeydd yr Aelodau.
2.9
Cytunodd y Bwrdd fod y templed
safonol presennol ar gyfer disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad yn addas i'r diben.
Diweddariad ar faterion ariannol y
Bwrdd a'r rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17
2.10
Nododd y Bwrdd y diweddariad
ariannol ar gyfer ei waith a'r gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r
Cynulliad.
2.11
Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiadau chwe-misol o'i gyllideb a'r
gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.
Cam gweithredu:
·
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o
wybodaeth am y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol yr Aelodau.
Cynigion am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd strategol ym mis Medi
2.12
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n cynnal
diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn er mwyn
ymgysylltu ag aelodau o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad sy'n gweithio mewn
swyddfeydd etholaeth yn y gogledd.
2.13 Cytunodd y Bwrdd y dylai'r diwrnod cwrdd i ffwrdd gynnwys gwahodd staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sesiwn galw heibio ac ymweliadau unigol â swyddfeydd etholaethol er mwyn clywed yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)
Trafodaeth strategol: Ystyried rhaglen waith y Bwrdd a myfyrdodau ynghylch cynefino
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
Cyfarfod: 22/05/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad: Contract a pholisïau eraill Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 51
- Cyfyngedig 52
Cyfarfod: 15/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Ystyried y rhaglen waith
·
Papur 13 – Rhaglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 54
Cofnodion:
5.1 Nododd y Bwrdd raglen waith y Bwrdd Taliadau hyd at
ddechrau 2015, sy’n cynnwys y gweithgareddau a fydd yn digwydd rhwng y
cyfarfodydd.
5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cyfarfodydd ar 21 Mawrth a 20
Mehefin gael eu trefnu dros dro fel cyfarfodydd deuddydd, o gofio faint o waith
a fydd i gael ei ystyried yn y cyfarfodydd hynny.
5.3 Cytunodd y Bwrdd fod yn rhaid ystyried y cyfnod o 12
wythnos ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad
yn y Pumed Cynulliad o fewn y rhaglenni gwaith sydd i gael eu hystyried gan y
Bwrdd yn y dyfodol.
Cam i’w gymryd:
Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a’r
penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn.
Cyfarfod: 15/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Lwfansau Gofalwyr
·
Papur 10 – Nodyn ar Lwfansau Gofalwyr, a ddarparwyd gan y
Gwasanaeth Ymchwil
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 57
Cofnodion:
2.1 Ystyriodd y
Bwrdd bapur a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil sy’n amlinellu’r cymorth sydd
ar gael ar hyn o bryd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a sut y mae’n cymharu
â Deddfwrfeydd eraill yn y DU. Mae’r papur yn amlinellu modelau cymorth posibl
hefyd.
2.2 Cytunodd y Bwrdd
y dylid ystyried heriau a brofir gan sbectrwm ehangach o ofalwyr pan fydd y
Bwrdd yn pwyso a mesur y Penderfyniad ar gyfer y pumed cynulliad.
2.3 Cytunodd y Bwrdd
i beidio ag ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ar yr opsiynau ar gyfer cefnogi
Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu ar hyn o bryd, ond i ystyried y mater eto
fel rhan o’r pecyn ar gyfer y pumed
Cynulliad.
Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Blaenraglen Waith
·
Papur 6 - Papur i’w nodi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 60
Cofnodion:
43. Nododd y Bwrdd flaenraglen waith ddrafft y
Bwrdd i’w thrafod ganddo.
44. Ar ddiwedd y cyfarfod diolchodd y Cadeirydd
i’r Clerc sy’n gorffen, Carys Eyton Evans, am ei gwasanaeth a’i chymorth arbennig
iddo ef a’r Bwrdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dymunwyd yn dda iddi at y
dyfodol.
Cadarnhawyd y byddai’r Bwrdd yn cynnal ei gyfarfod nesaf ar 18 Hydref
2013.
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
Gorffennaf 2013