Cyfarfodydd
Adolygiad o drefniadau Adolygiad o drefniadau a chyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)
Cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad 2016-17: trafodaeth gyntaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cyfarfod: 03/07/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)
Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad: Polisïau ar gyfer staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad, a chanllawiau drafft ar y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cyfarfod: 20/02/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)
Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad: ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar Godiad Cyflog 2015-16
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)
Trefniadau staffio Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad: Cyflogau, Pensiynau a Budd-daliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – dyfarniad cyflog 2014–15
Cofnodion:
2.3 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan staff cymorth
Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y bydd staff cymorth yn
cael cynnydd o 1% mewn cyflog yn ystod
blwyddyn 2014-15, yn unol â pholisïau cyflog yn y sector cyhoeddus. Cytunodd y
Bwrdd y byddai'n edrych yn fanylach ar y materion allweddol canlynol sy'n codi
o'r ymgynghoriad fel rhan o'i waith yn y dyfodol:
- A ddylai staff cymorth Aelodau'r Cynulliad
fod yn gymwys ar gyfer buddion marwolaeth mewn gwasanaeth
- Dileu
swydd a pharhad cyflogaeth
- Gwyliau
a dyddiau disgresiwn
- Cyfraniadau
pensiwn.
Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad
·
Adolygiad o strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r
Cynulliad – Papur 10
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
5.1 Ystyriodd y Bwrdd bapur ar strwythur
staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad, a ddarparwyd gan Gomisiwn y
Cynulliad.
5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiad o
gyflogaeth a strwythur staffio'r Staff Cymorth ar gyfer y Pumed Cynulliad.
Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Cyflogau staff cymorth yr Aelodau - dyfarniad cyflog 2014-15
·
Papur 2b
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
2.4 Trafododd y
Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau ynghylch cyflogau'r staff
cymorth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15.
2.5 Cytunodd y Bwrdd
y dylid ymgynghori â'r staff cymorth a'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion i
gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog ar gyfer 2014-15, yn unol â
chyflogau'r sector cyhoeddus.
2.6 Cytunodd y Bwrdd
i gynnull cyfarfod o grŵp cyfeirio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad i
gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau - yn enwedig safbwyntiau staff sy'n
gweithio y tu allan i Fae Caerdydd.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7)
Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – adroddiad drafft
·
Papur 9 (Adroddiad drafft ar gyflogau Staff Cymorth Aelodau’r
Cynulliad)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
7.1 Gwnaeth y Bwrdd
sylwadau ar ei adroddiad ar gyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad, a gâi
ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2013, a chytunodd arno.
7.2 Nododd y Bwrdd y
byddai’n ymgynghori ynghylch cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ar
gyfer 2014-15 ddechrau’r Flwyddyn Newydd.
7.3 Cytunodd y Bwrdd
y byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr a’i ddosbarthu i bob
aelod o staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.
Cam i’w gymryd:
- Byddai’r
Ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi’r adroddiad ar gyflogau staff cymorth
Aelodau’r Cynulliad ac yn ei ddosbarthu i holl staff cymorth yr Aelodau.
Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Adolygiad o drefniadau staffio Aelodau'r Cynulliad
·
Papur 2 - Cynigion ar gyfer yr adolygiad o drefniadau staffio
-
Atodiad A: Cynigion ar gyfer trefniadau staffio grwpiau
-
Atodiad B: Ymateb gan y grwpiau
-
Atodiad C: Llythyrau at yr Aelodau
·
Y camau nesaf - llythyr at yr Aelodau a chyhoeddi adroddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
26. Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg byr o’r
broses hyd yma fel rhan o adolygiad y Bwrdd i drefniadau staffio Aelodau’r
Cynulliad a nododd ei fod ef a Sandy Blair wedi cymryd rhan mewn cyfres o
gyfarfodydd terfynol â rhanddeiliaid ym mis Mai.
27. Mae crynodeb o benderfyniadau’r Bwrdd ar
drefniadau Staffio Aelodau’r Cynulliad wedi’i nodi isod, gyda’r camau a ganlyn
wedi’u rhoi ar waith ers 1 Ebrill 2013.
·
Codiad cyflog o 1% i holl Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad;
·
Cyfle i ddechreuwyr newydd a benodwyd ar bwynt isaf eu
graddfa gyflog i fod yn gymwys i gael adolygiad cyflog ar ôl chwe mis. Yn
amodol ar berfformiad boddhaol, byddant yn symud at y pwynt cynyddrannol nesaf
ar y raddfa gyflog. Bydd cynnydd eu cyflog yn y dyfodol yn digwydd fesul blwyddyn
o ddyddiad yr adolygiad chwe mis;
·
Dileu’r gofyniad bod rhaid hysbysebu swyddi yn allanol yn yr
achosion hynny pan mae ymgeiswyr mewnol addas a benodwyd eisoes drwy
gystadleuaeth deg ac agored;
·
Caniatáu i Aelodau’r Cynulliad gynyddu nifer diwrnodau
gwyliau blynyddol eu staff ar gontractau safonol i hyd at 31 diwrnod y
flwyddyn.
28. Hefyd cadarnhaodd y Cadeirydd
benderfyniadau’r Bwrdd ynghylch trefniadau a geisiodd eu hamlinellu oedd â’r
nod o gynyddu capasiti strategol y Cynulliad, capasiti strategol Aelodau unigol
a chapasiti strategol grwpiau pleidiau; a darparu cyfleoedd ychwanegol i staff
cymorth ddatblygu eu gyrfaoedd ar yr un pryd.
29. Cydnabu’r Bwrdd, tra bo rhai Aelodau wedi
croesawu ei gynigion a’u bod yn cytuno â’r egwyddorion sy’n sail iddynt, ni
chawsant gefnogaeth drwyddi draw.
30. Felly cytunodd y Bwrdd na fyddai’r cynigion
hyn yn cael eu rhoi ar waith yn eu cyfanrwydd. Yn hytrach, byddai rhai o’r
newidiadau hyn, yr oedd cytundeb unfrydol wedi bod arnynt, yn cael eu rhoi ar waith
o 1 Gorffennaf 2013 a’u monitro dros y 12 mis nesaf.
31. Mae crynodeb o’r
cynigion hyn wedi’u nodi isod:
Cefnogaeth
well ar gyfer Aelodau Cynulliad unigol - penodi Uwch Gynghorydd
32. Cadarnhaodd y Bwrdd nad yw’n fwriad ganddo
roi’r cynnig hwn ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ond efallai
yr ystyrir ef eto yn y dyfodol.
Cefnogaeth
well ar gyfer Aelodau Cynulliad unigol - Cronfa Ymgysylltu (Cronfa Bolisi ac
Ymchwil)
33. Byddwn yn parhau â’r cynnig i sefydlu
cronfa ychwanegol i Aelodau allu ei defnyddio i gomisiynu gwaith ymchwil
allanol, a bydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf. Er mwyn sicrhau bod diben y
gronfa’n eglur, byddai’n cael ei galw’n Gronfa Bolisi ac Ymchwil. Byddai ar
gael i Aelodau, i ariannu gwaith ymchwil allanol i gefnogi datblygiad polisi,
archwilio materion o bwys yn eu hetholaeth neu ranbarth, neu graffu ar bolisi,
deddfwriaeth neu gyllid.
34. Caniateir i’r Aelodau gyfuno arian o’r
gronfa i gomisiynu darnau o waith mwy sylweddol, er y byddai’n ofynnol i hynny
fod yn unol ag arfer gorau o ran caffael.
35. Byddai’r Bwrdd yn monitro faint o ddefnydd o’r Gronfa Bolisi ac Ymchwil a fydd, a’i gwerth o ran defnyddio arbenigedd ychwanegol i gynorthwyo’r Aelodau dros y 12 mis nesaf. Byddai’n cynnal ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5