Agenda item
Adolygiad o drefniadau staffio Aelodau'r Cynulliad
- Cyfarfod Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (WRB(19)), Dydd Gwener, 21 Mehefin 2013 09.30 (Item 5.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 5.
·
Papur 2 - Cynigion ar gyfer yr adolygiad o drefniadau staffio
-
Atodiad A: Cynigion ar gyfer trefniadau staffio grwpiau
-
Atodiad B: Ymateb gan y grwpiau
-
Atodiad C: Llythyrau at yr Aelodau
·
Y camau nesaf - llythyr at yr Aelodau a chyhoeddi adroddiad
Cofnodion:
26. Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg byr o’r
broses hyd yma fel rhan o adolygiad y Bwrdd i drefniadau staffio Aelodau’r
Cynulliad a nododd ei fod ef a Sandy Blair wedi cymryd rhan mewn cyfres o
gyfarfodydd terfynol â rhanddeiliaid ym mis Mai.
27. Mae crynodeb o benderfyniadau’r Bwrdd ar
drefniadau Staffio Aelodau’r Cynulliad wedi’i nodi isod, gyda’r camau a ganlyn
wedi’u rhoi ar waith ers 1 Ebrill 2013.
·
Codiad cyflog o 1% i holl Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad;
·
Cyfle i ddechreuwyr newydd a benodwyd ar bwynt isaf eu
graddfa gyflog i fod yn gymwys i gael adolygiad cyflog ar ôl chwe mis. Yn
amodol ar berfformiad boddhaol, byddant yn symud at y pwynt cynyddrannol nesaf
ar y raddfa gyflog. Bydd cynnydd eu cyflog yn y dyfodol yn digwydd fesul blwyddyn
o ddyddiad yr adolygiad chwe mis;
·
Dileu’r gofyniad bod rhaid hysbysebu swyddi yn allanol yn yr
achosion hynny pan mae ymgeiswyr mewnol addas a benodwyd eisoes drwy
gystadleuaeth deg ac agored;
·
Caniatáu i Aelodau’r Cynulliad gynyddu nifer diwrnodau
gwyliau blynyddol eu staff ar gontractau safonol i hyd at 31 diwrnod y
flwyddyn.
28. Hefyd cadarnhaodd y Cadeirydd
benderfyniadau’r Bwrdd ynghylch trefniadau a geisiodd eu hamlinellu oedd â’r
nod o gynyddu capasiti strategol y Cynulliad, capasiti strategol Aelodau unigol
a chapasiti strategol grwpiau pleidiau; a darparu cyfleoedd ychwanegol i staff
cymorth ddatblygu eu gyrfaoedd ar yr un pryd.
29. Cydnabu’r Bwrdd, tra bo rhai Aelodau wedi
croesawu ei gynigion a’u bod yn cytuno â’r egwyddorion sy’n sail iddynt, ni
chawsant gefnogaeth drwyddi draw.
30. Felly cytunodd y Bwrdd na fyddai’r cynigion
hyn yn cael eu rhoi ar waith yn eu cyfanrwydd. Yn hytrach, byddai rhai o’r
newidiadau hyn, yr oedd cytundeb unfrydol wedi bod arnynt, yn cael eu rhoi ar waith
o 1 Gorffennaf 2013 a’u monitro dros y 12 mis nesaf.
31. Mae crynodeb o’r
cynigion hyn wedi’u nodi isod:
Cefnogaeth
well ar gyfer Aelodau Cynulliad unigol - penodi Uwch Gynghorydd
32. Cadarnhaodd y Bwrdd nad yw’n fwriad ganddo
roi’r cynnig hwn ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ond efallai
yr ystyrir ef eto yn y dyfodol.
Cefnogaeth
well ar gyfer Aelodau Cynulliad unigol - Cronfa Ymgysylltu (Cronfa Bolisi ac
Ymchwil)
33. Byddwn yn parhau â’r cynnig i sefydlu
cronfa ychwanegol i Aelodau allu ei defnyddio i gomisiynu gwaith ymchwil
allanol, a bydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf. Er mwyn sicrhau bod diben y
gronfa’n eglur, byddai’n cael ei galw’n Gronfa Bolisi ac Ymchwil. Byddai ar
gael i Aelodau, i ariannu gwaith ymchwil allanol i gefnogi datblygiad polisi,
archwilio materion o bwys yn eu hetholaeth neu ranbarth, neu graffu ar bolisi,
deddfwriaeth neu gyllid.
34. Caniateir i’r Aelodau gyfuno arian o’r
gronfa i gomisiynu darnau o waith mwy sylweddol, er y byddai’n ofynnol i hynny
fod yn unol ag arfer gorau o ran caffael.
35. Byddai’r Bwrdd yn monitro faint o ddefnydd
o’r Gronfa Bolisi ac Ymchwil a fydd, a’i gwerth o ran defnyddio arbenigedd
ychwanegol i gynorthwyo’r Aelodau dros y 12 mis nesaf. Byddai’n cynnal
adolygiad cychwynnol o weithrediad y gronfa newydd ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol bresennol.
Gwella’r
gefnogaeth i Grwpiau - band cyflog newydd ar gyfer Penaethiaid Staff
36. Cytunodd y Bwrdd i gyflwyno band cyflog
newydd ar gyfer Penaethiaid Staff, a delir ar lefel a fydd 10 % yn uwch na’r
cyflog Cymorth Grŵp Ychwanegol. Roedd hyn i gydnabod yr hyn yr oedd y
Bwrdd yn ei ystyried fel mwy o gyfrifoldeb na swyddi eraill o fewn y grwpiau ac
am ddarparu cymorth strategol i Arweinyddion y Pleidiau, Rheolwyr Busnes a holl
Aelodau’r grwpiau. Dim ond un swydd amser llawn, neu swyddi cyfwerth ag amser
llawn fesul plaid a gaiff eu hariannu yn y modd hwn.
Gwella’r
gefnogaeth i Grwpiau - capasiti uwch o fewn y pleidiau
37. Cytnunodd y Bwrdd i gynyddu’r gyllideb i
bob grŵp plaid i’w galluogi i gryfhau ei chapasiti o ran polisi ac ymchwil
ac i benodi staff ar lefel yn uwch i wneud gwaith cymhleth.
38. Byddai grwpiau’n parhau i gael hyblygrwydd
i strwythuro eu swyddfeydd yn ôl eu hanghenion eu hunain. Byddai swyddogion o’r
Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau yn trafod hyn yn fanwl â’r grwpiau ac yn rhoi
cyngor yn ôl y gofyn.
39. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Bwrdd yn dal
wedi ymrwymo i hyrwyddo cynnydd gyrfa ar gyfer staff cymorth Aelodau’r
Cynulliad a gwella capasiti strategol y Cynulliad ac y byddai’r cynigion sy’n
weddill yn parhau’n agored i’w trafod ymhellach yn 2014.
40. Cadarnhaodd y Bwrdd mai’r uchafswm cost
posibl ar gyfer y cynigion sydd wedi’u derbyn fydd £200,000 ar gyfer blwyddyn
ariannol lawn.
41. Byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at
Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth yn awr i roi gwybod iddynt beth yw
penderfyniad terfynol y Bwrdd ynghylch staffio ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.
42. Câi’r penderfyniadau hyn eu hamlinellu’n
fanylach yn Adroddiad Blynyddol y Bwrdd ar gyfer 2012-13, a gyhoeddir cyn
toriad yr haf.