Cyfarfodydd
P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)
9 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Deiseb ar y Ddarpariaeth o Doiledau Cyhoeddus yng Nghymru – Ystyried dull y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cyndeithasol o weithredu
HSC(4)-12-11 papur 3
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar ei ddull o weithredu mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y dylai ei waith ganolbwyntio ar y diffyg darpariaeth toiledau cyhoeddus ac effaith hyn ar iechyd y cyhoedd, ac y dylai’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 23 Rhagfyr 2011.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu sefydliadau ychwanegol at y rhestr ymgynghori arfaethedig.
Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- PET(4)-05-11 p15a Tudalen blaen, Eitem 6 PDF 29 KB Gweld fel HTML (6/1) 12 KB
- PET(4)-05-11 p15b Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Eitem 6 PDF 66 KB
- PET(4)-05-11 p15c Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, Eitem 6 PDF 201 KB
- PET(4)-05-11 p15d Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eitem 6 PDF 133 KB
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y deisebydd gan egluro y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ystyried y mater hwn ac yna’n cau’r
ddeiseb.
Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus - Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 4 KB
- Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Saesneg yn unig, Eitem 3 PDF 155 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniadau trafodaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei flaenraglen waith.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn a fyddai’n bosibl trafod y ddeiseb fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i adfywio canol trefi.
Bydd y tîm
clercio yn anfon copi o gylch
gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi at aelodau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Deisebau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10:00 - 10:10)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Trafododd y Pwyllgor ddwy ddeiseb a gyfeiriwyd gan y Pwyllgor Deisebau: P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus a P-03-301 Cydraddoldeb i’r Gymuned Drawsryweddol
2.2 Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn ailystyried y deisebau yn yr hydref, pan fyddai ei raglen waith yn fwy eglur.
2.3 Byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i’w gynghori ynghylch trafodaethau a chasgliadau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y wybodaeth hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i:
·
Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol
ar ôl i strwythur
y pwyllgorau gael ei sefydlu i ofyn
iddo a fyddai’n ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater.