Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-02-11(p1)

 

DEISEBAU A GYFEIRIWYD I’R PWYLLGOR

Diben

1.        Ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 29 Mehefin i nodi ei benderfyniad i gyfeirio dwy ddeiseb i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w hystyried. Mae’r llythyr ynghlwm yn Atodiad A i’r papur hwn.

2.        Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi gofyn i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried cynnal ymchwiliadau i’r agweddau iechyd ar y deisebau a ganlyn:

-               darparu toiledau cyhoeddus (P-03-292)

-               cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol (P-03-301)

3.        Cyfeiriwyd y ddwy ddeisebu hefyd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’w hystyried, gan eu bod yn berthnasol i’w gylch gwaith.

Y weithdrefn ar gyfer deisebau

4.        Amlinellir y broses ddeisebau yn Rheol Sefydlog 23. Sefydlwyd y broses ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad i roi rhagor o gyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a dylanwadu arno.

5.        Rhaid i’r Pwyllgor Deisebau ystyried unrhyw ddeisebau derbyniadwy a gyflwynir gan y cyhoedd. Amlinellir y meini prawf ar gyfer barnu a yw deiseb yn dderbyniadwy yn Rheol Sefydlog 23 ac mae’n cynnwys y gofynion a ganlyn:

Nid yw deiseb yn dderbyniadwy:

-               os yw’n cynnwys llai na 10 o lofnodion (oni bai bod y deisebwr yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforaethol o unigolion);

-               os yw’n cynnwys iaith sy’n peri tramgwydd;

-               os yw’n gofyn i’r Cynulliad wneud unrhyw beth y mae’n eglur nad oes gan y Cynulliad bŵer iw wneud; neu

-               os yw'r un fath, neu i raddau helaeth yr un fath, â deiseb a gaewyd llai na blwyddyn yn gynt.

6.        Wrth ystyried deisebau derbyniadwy, gall y Pwyllgor Deisebau gymryd ystod o wahanol gamau, a bydd yn aml yn gwneud cyfuniad o’r hyn a ganlyn: 

-               gofyn am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a’i barn, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar;

-               gofyn am wybodaeth a sylwadau gan sefydliadau eraill y mae’n bosibl bod ganddynt farn am y ddeiseb neu ddiddordeb ynddi, er enghraifft, cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, undebau llafur, grwpiau cymunedol, neu unrhyw un arall y teimla’r Pwyllgor all ychwanegu gwerth at ei ystyriaethau;  

-               gofyn am ragor o wybodaeth gan y deisebwyr, naill ai’n ysgrifenedig neu fel rhan o sesiwn dystiolaeth gan y Pwyllgor;

-               cyfeirio’r ddeiseb i bwyllgorau eraill y Cynulliad neu sefydliadau allanol;

-               cynnal ymchwiliad pwyllgor.

Cefndir y deisebau a gyfeiriwyd

Darparu toiledau cyhoeddus

7.        Cyflwynwyd y ddeiseb ynghylch darparu toiledau cyhoeddus ym mis Mehefin 2010 gan y Cynghorydd Louise Hughes. Dyma eiriad y ddeiseb:

Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r effeithiau posibl ar iechyd a lles cymdeithasol a allai ddeillio o gau toiledau cyhoeddus ac annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus.

Casglodd y ddeiseb 430 o lofnodion. Ceir crynodeb o ystyriaethau’r Pwyllgor Deisebau yn Atodiad B i’r papur hwn.

Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

8.        Cyflwynwyd y ddeiseb ynghylch cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol ym mis Medi 2010 gan Transgender Cymru. Dyma eiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y rhoddir yr un gefnogaeth a chymorth uniongyrchol i’r gymuned drawsrywiol ag a roddir i gymunedau tebyg, fel y grwpiau cymorth ar gyfeiriadedd rhywiol, i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y gymuned drawsrywiol ac ymwybyddiaeth ohoni.

Mae’r ddeiseb wedi casglu 113 o lofnodion. Ceir crynodeb o ystyriaethau’r Pwyllgor Deisebau yn Atodiad C i’r papur hwn.

Camau i’r Pwyllgor eu cymryd

9.        Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn nodi’r camau y dylai’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu cymryd mewn perthynas â’r cais hwn gan y Pwyllgor Deisebau. Fodd bynnag, efallai yr hoffai aelodau’r Pwyllgor ystyried y camau a ganlyn:

-        ymateb drwy nodi y bydd y Pwyllgor yn ystyried y deisebau yn nhymor yr hydref pan fydd yn edrych ar y dull strategol a roddir ar waith ar gyfer ei flaenraglen waith ac yn sgil unrhyw gamau a gymerir gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y deisebau; neu

-     dewis un o’r deisebau fel rhan o ymchwiliad cyntaf y Pwyllgor neu fel sail iddo.

10.     Gwahoddir y Pwyllgor i:

-     nodi cais y Pwyllgor Deisebau i ystyried cynnal ymchwiliad i’r agweddau iechyd ar y ddwy ddeiseb (paragraff 2);

-     trafod sut mae’n dymuno bwrw ymlaen â’r cais (paragraff 9); a

-     cytuno y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i amlinellu penderfyniad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 


 

Atodiad A

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y Pwyllgor Deisebau

Petitions Committee

 

 

Mark Drakeford AM,
Chair of Health and Social Care Committee
National Assembly for Wales
Cardiff Bay
Cardiff
CF99 1NA

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay
Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA

Our ref: P-03-292/301

29 June 2011

Petitions: P-03-292 Public Toilet Provision

P-03-301 Equality for the Transgender Community

At a recent Petitions Committee meeting, we agreed to refer to two petitions to the Health and Social Care Committee.

P-03-292 Public Toilet Provision

We are currently considering a petition submitted by Cllr Louise Hughes, which has collected 430 signatures:

We, the undersigned, call upon the National Assembly for Wales to investigate the health and social well-being implications resulting from public toilets closures and to urge the Welsh Government to issue guidance to local authorities to ensure adequate public toilet provision.

The Welsh Senate of Older People has expressed its support for the aims of the petition, and this correspondence is enclosed, along with supporting information from the petitioner, which includes a report by Age Cymru entitled ‘Nowhere to Go’.

At our Committee meeting on 21 June, we agreed to enquire as to whether the Health and Social Care Committee would consider undertaking an inquiry into the health aspects of this important issue.

 

P-03-301 Equality for the Transgender Community

We are also considering a petition submitted by Transgender Wales which collected 113 signatures:

We the undersigned call upon the National Assembly for Wales to urge the Welsh Government to ensure that the transgender community is given equal support and direct assistance, as given to comparable communities such as Sexual Orientation support groups, to promote equality and awareness for the transgender community.

The Committee in the third Assembly took oral evidence from the petitioners, and corresponded with the First Minister on the issues raised by the petition. Through their consideration a range of issues were highlighted, but a primary concern of the petitioners was related to healthcare provision for people with gender dysphoria. I have enclosed copies of correspondence considered by the previous Committee for your information. 

At our Committee meeting on 21 June, we agreed to enquire as to whether the Health and Social Care Committee would consider undertaking an inquiry into the health aspects of this important issue.

Please note we have also highlighted both these petitions with the Communities, Local Government and Equalities Committee.

Thank you for your consideration of this issue. 

Yours sincerely,

 

William Powell AM
Chair, Petitions Committee


 

Atodiad B

Crynodeb o ystyriaethau’r Pwyllgor Deisebau o’r ddeiseb ar ddarparu toiledau cyhoeddus

1.   Cyflwynwyd y ddeiseb ym mis Mehefin 2010.

2.   Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y mater hwn, yn ogystal â Chadeirydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Trydydd Cynulliad yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried y mater. Ysgrifennodd y Pwyllgor hefyd at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac at bob awdurdod cynllunio lleol i ofyn: 

Pa ofynion, os o gwbl, sydd gennych i sicrhau bod toiledau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn datblygiadau y tu allan i drefi a datblygiadau cyhoeddus eraill mewn lleoliadau cefn gwlad/ynysig.

3.        Ymatebodd 23 o’r awdurdodau cynllunio lleol o gyfanswm o 25. Nid oes gan yr un o’r awdurdodau ofyniad penodol ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus mewn lleoliadau cefn gwlad neu ynysig, ar wahân i awdurdod Sir y Fflint, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod parciau lori yn darparu cyfleusterau toiled digonol.

4.        Roedd consensws ymysg y rhai a ymatebodd y bydd y rhan fwyaf o ddatblygwyr yn cynnwys toiledau cyhoeddus os oes disgwyl y bydd y cyhoedd yn defnyddio’r datblygiad. Amlygwyd y ffaith bod TAN 12 yn annog cynnwys toiledau cyhoeddus hygyrch mewn adeiladau masnachol newydd a chyhoeddus. Nododd nifer o gynghorau y byddent yn codi’r mater o ddarparu toiledau cyhoeddus pe byddent yn teimlo nad oedd darpariaeth ddigonol. Fodd bynnag, byddai’n rhaid cynnal profion penodol er mwyn gorfodi gofyniad cynllunio. Mae Ynys Môn wedi cynnwys darpariaethau ar gyfer toiledau cyhoeddus newydd mewn Canllawiau Cynllunio Atodol ar Rwymedigaethau Cynllunio. Disgrifiodd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro sut mae’n ceisio mynd i’r afael â mater penodol yn St Justinian i wella’r ddarpariaeth.

5.        Darparodd rhai awdurdodau wybodaeth am ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn eu hardaloedd, gan gynnwys Blaenau Gwent, a nododd ei fod yn bwriadu annog y defnydd o doiledau cyhoeddus yng nghanol trefi drwy’r Grant Mynediad i Gyfleusterau Lleol, a ddarperir gan y Llywodraeth i annog awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth gyda busnesau lleol i roi mynediad am ddim i’r cyhoedd i’w toiledau.

6.        Nododd ymateb y Gweinidog mai’r awdurdodau lleol unigol sy’n gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw cyfleusterau toiled ac na fyddai cyhoeddi canllawiau gan Lywodraeth Cymru’n sicrhau darpariaeth well. Mewn ymateb i ragor o ohebiaeth, hysbysodd y Gweinidog y Pwyllgor y byddai 18 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y Cynllun Grant Mynediad i Gyfleusterau Lleol yn 2010-11.  

7.        Ysgrifennodd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar y pryd i ofyn a ellir gweithredu gofyniad i ganolfannau siopau ddarparu cyfleusterau digonol drwy’r rheolau cynllunio. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor nad oes darpariaeth o’r fath ym Mholisi Cynllunio Cymru nac yn y Nodiadau Cyngor Technegol. 

8.        Gofynnodd y Pwyllgor am farn Cymdeithas Toiledau Prydain, a ymatebodd drwy ddweud ei bod yn cefnogi’r ddeiseb yn fawr iawn. Nododd y Gymdeithas mai’r rheswm dros gau'r mwyafrif o doiledau cyhoeddus dros yr 20 mlynedd diwethaf yw bod penderfyniadau ynghylch y gwasanaeth yn cael eu gwneud yn ôl disgresiwn, yn ogystal â’r pwysau a roddir ar arian awdurdodau lleol. Mae hyn wedi dwysau yn y misoedd diwethaf oherwydd toriadau difrifol i’r gyllideb sy’n angenrheidiol bellach oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

9.        Mynegodd y Gymdeithas bryder bod y ddarpariaeth o doiledau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yng Nghymru wedi parhau i leihau a bod disgwyl i fwy o doiledau gael eu cau.

Gwybodaeth arall

10.     Mewn Dadl Fer yn y Cyfarfod Llawn ar doiledau cyhoeddus yng Nghymru ym mis Medi 1010, galwodd Jenny Randerson AC am osod dyletswydd statudol ar awdurdodau i ddarparu toiledau cyhoeddus. Yn ei ymateb i’r ddadl, cytunodd y Dirprwy Weinidog y byddai’n trafod y cynnig i wneud darparu cyfleusterau toiled yn ddyletswydd statudol gyda’r Gweinidog perthnasol. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor eisoes wedi cael ymateb gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, fel y nodir uchod.

11.     Mae Senedd Pobl Hŷn Cymru wedi mynegi ei chefnogaeth i ddibenion y ddeiseb mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor.

12.     Gellir gweld gywbodaeth gefndirol a ddarparwyd gan y deisebydd ar y mater hwn, gan gynnwys adroddiad gan Help the Aged yng Nghymru, fan hyn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s1121/P-03-292%20Darparu%20Toiledau%20Cyhoeddus.pdf


 

Atodiad C

Crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb ar gydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

1.   Cyflwynwyd y ddeiseb ym mis Medi 2010.

2.   Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd i ofyn am ei farn gychwynnol, ac at y deisebwyr gan gyfeirio at yr ymgynghoriad ar ‘Ddeddf Cydraddoldeb 2010: Cyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru’. Byddai’r dyletswyddau newydd yn berthnasol i wyth maes cydraddoldeb, gan gynnwys ailbennu rhywedd. Ar y pryd, roedd dyletswyddau cyflogwyr yn ofynnol o ran pob nodwedd ac eithrio cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd, a dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd wrth y Cyfarfod Llawn y byddai’n ystyried y mater hwn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. 

3.        Cyfeiriodd ymateb y Gweinidog i’r ohebiaeth at Gynllun Cydraddoldeb Sengl y Llywodraeth, sy’n cynnwys trawsrywedd fel maes cydraddoldeb, a nododd y bu ymgynghori â’r gymuned drawsryweddol yn ail gam y broses ymgynghori ar y cynllun. Cyfeiriodd hefyd at y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb 2010-11 fel ffynhonnell ariannu ar gyfer grwpiau cymorth a dywedodd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gronfa hon gan sefydliadau sy’n ymdrin yn benodol â materion trawsryweddol.

4.        Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan y deisebwyr ym mis Ionawr 2011, a oedd yn amlygu’r anawsterau y mae nifer o aelodau o’r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu, yn enwedig o ran materion cydraddoldeb ac ym meysydd iechyd, addysg a chyflogaeth. Amlygodd y deisebwyr bryderon ynghylch ansawdd y cyngor a’r cymorth a roddir i’r gymuned drawsryweddol, a gwnaethant gyfeirio at un achos lle'r oedd unigolyn wedi gorfod mynd i’r ysbyty ar ôl cael cyngor gan gynghorwr nad oedd wedi’i hyfforddi.

5.        O ran ariannu, nododd y deisebwyr eu bod wedi cael cyngor bod eu sefydliad yn rhy fach i fod yn gymwys i gael arian Ewropeaidd ac nad oeddent wedi cael gwybodaeth am y ffynonellau arian eraill sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Ni wnaeth y deisebwyr fynd ar drywydd y mater ariannu oherwydd eu bod yn teimlo bod y ffaith eu bod yn gorfod disgwyl yn hir i gael eu cyfeirio i gael triniaeth yn fater pwysicach.

6.        Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Prif Weinidog i ofyn am ymateb ar draws y Llywodraeth ar y materion hyn, yn ogystal ag at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i ofyn am ei farn.

7.        Atebodd y Comisiwn drwy ddweud bod pobl trawsryweddol yn wynebu agweddau negyddol parhaus yng Nghymru a bod angen addysgu a chodi ymwybyddiaeth pobl, gwybodaeth a chyngor hygyrch, cael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth, a chynrychiolaeth fwy cadarnhaol o bobl trawsryweddol yn y cyfryngau. 

8.        Atebodd y Prif Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru ar faterion ynghylch gwasanaethau iechyd, ariannu ac ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd, addysg a chyflogaeth. Cyfeiriodd at y Ddeddf Cydraddoldeb newydd a’r ffaith y bydd dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dod i rym ym mis Ebrill 2011; a’r ffaith y bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy’n gyfrifol am gynllunio gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, yn ceisio gwella sut y caiff gwasanaethau triniaeth eu cynllunio a’u diogelu, ac yn ymgynghori â chynrychiolwyr o’r gymuned drawsryweddol. 

9.        Cadarnhaodd y deisebwyr eu bod yn gweithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i wella gwasanaethau triniaeth, a gwnaethant nodi y byddent yn disgwyl i weld sut y byddai’r Llywodraeth newydd (ar ôl etholiad 2011) yn mynd i’r afael â’r materion hyn.

10.     Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Prif Weinidog eto i dynnu ei sylw at adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘Not Just Another Statistic’, i amlygu’r ffaith bod yr angen i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus yn thema sy’n codi’n fynych yn y dystiolaeth a gafwyd, ac i ofyn am wybodaeth am wasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys amseroedd aros.  

11.     Atebodd y Prif Weinidog gan ddweud bod rhestrau aros yn amrywio gan ddibynnu ar gyfnod yr asesiad clinigol a phrofiad gwirioneddol, a darparodd y polisi comisiynu ar gyfer pryder ynghylch rhywedd. Cyfeiriodd y Prif Weinidog y Pwyllgor hefyd at y Cynllun Gweithredu ar Iechyd a Lles Rhywiol.

12.     Gellir gweld gywbodaeth gefndirol sy’n berthnasol i’r ddeiseb honfan hyn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s1132/P-03-301%20Cydraddoldeb%20ir%20gymuned%20drawsryweddol.pdf