Cyfarfodydd
Cyllido Addysg Uwch
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Darren Millar AC (30 Gorffennaf 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru at Mike Hedges AC (15 Awst 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyllid addysg uwch
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-21-14(ptn1) (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
- PAC(4)-21-14(ptn2), Eitem 3 PDF 2 MB
- PAC(4)-21-14(ptn3), Eitem 3 PDF 2 MB
- PAC(4)-21-14(ptn4), Eitem 3 PDF 625 KB
Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Cyllido Addysg Uwch: Trafod yr adroddiad drafft
FIN(4)-07-14(papur 1)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
Cofnodion:
2.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân
newidiadau.
Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Cyllido Addysg Uwch: ystyried y prif faterion
FIN(4)-05-14 (papur 4)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd y clercod yn
paratoi adroddiad drafft i’w drafod ar ôl toriad y Pasg.
Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Cyllido Addysg Uwch: Llythyr gan yr Athro Julie Williams
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 28/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Cyllido Addysg Uwch: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
Cofnodion:
4.1 Cynhaliwyd
sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr adroddiad ar Gyllid Addysg
Uwch a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2013.
4.2 Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ceisio ymateb i adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru. Cytunodd hefyd
i ddychwelyd at y mater hwn unwaith y bydd rhagor o waith wedi cael ei gwblhau
yn ddiweddarach eleni.
Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol (2) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllido Addysg Uwch: 2.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru:
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Brifysgol Agored Cymru
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr ymchwiliad a
gofynnwyd i'r clercod gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
·
Llyfr benthyciad i fyfyrwyr
·
Nifer y myfyrwyr AAB/ABB sy'n cofrestru gyda phrifysgolion Cymru
·
Ysgrifennu at y Prif Gynghorwr Gwyddonol ynghylch cyllid ar gyfer gwaith
ymchwil
Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Huw
Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Neil Surman, Dirprwy
Cyfarwyddwr, Addysg Uwch
Chris Jones, Pennaeath Cyllid
Addysg Uwch a Gwella Perfformiad
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar
gyllido addysg uwch.
Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
FIN(4)-21-13 (papur 3)
Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru
Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
Cymru a Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y
Myfyrwyr Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.
Camau
gweithredu:
2.1 Cytunodd
Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch
dadansoddi gwaith ymchwil sydd i ddod ar gymorth i fyfyrwyr, pan fo hynny ar
gael yn y flwyddyn newydd
Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
FIN(4)-21-13 (papur 1)
FIN(4)-21-13 (papur 2)
Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru
Ben Arnold, Cynghorwr Polisi, Addysg Uwch Cymru
Dr David Blaney, Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllido, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-21-13 (p1) (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 538 KB Gweld fel HTML (2/1) 159 KB
- FIN(4)-21-13(p2), Eitem 2 PDF 206 KB Gweld fel HTML (2/2) 55 KB
Cofnodion:
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor,
Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, Ben Arnold, Cynghorwr Polisi i
Addysg Uwch Cymru,
Dr David
Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Bethan Owen,
Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Celia
Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllid, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru,
ynghylch cyllido addysg uwch.
Camau
gweithredu:
2.1 Cytunodd
Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:
·
Data ar gymhariaethau rhanbarthol
·
Nifer y myfyrwyr AAB neu well sy’n astudio ym Mhrifysgol
Bangor
·
Faint yn llai o fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
·
Data ar werth am arian o ran myfyrwyr sy’n astudio yng
Nghymru
2.2 Cytunodd
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:
·
Y tueddiadau o ran myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr
(pan fo’r wybodaeth ar gael)
·
Nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
Cofnodion:
6.1 Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch.
Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan y Brifysgol Agored
FIN(4)-20-13 (papur 6)
Rob Humphreys, Cyfarwyddwr, y Brifysgol Agored yng Nghymru
Michelle Matheron, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y
Brifysgol Agored yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rob Humphreys,
Cyfarwyddwr, y Brifysgol Agored yng Nghymru a Michelle Matheron, Rheolwr Polisi
a Materion Cyhoeddus, y Brifysgol Agored yng Nghymru, o ran cyllido addysg
uwch.
5.2 Cytunodd Rob Humphreys i anfon nodyn i’r Pwyllgor â
manylion am bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy’n dilyn cyrsiau’r Brifysgol Agored
ar hyn o bryd.
Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
Cofnodion:
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer
yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch.
Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr
FIN(4)-20-13 (papur 4)
FIN(4)-20-13 (papur 5)
Yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau
Academaidd, Prifysgol Caerdydd
Mike Davies, Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Michael Scott, Is-ganghellor a Phrif Weitrhedwr, Prifysgol Glyndŵr
Paul Whiting – Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Glyndŵr
Andrew Parry – Pennaeth yr Adran Cyfathrebu Corfforaethol, Prifysgol Glyndŵr
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-20-13 Papur 4, Eitem 4 PDF 168 KB Gweld fel HTML (4/1) 39 KB
- FIN(4)-20-13 Papur 5, Eitem 4 PDF 90 KB Gweld fel HTML (4/2) 52 KB
Cofnodion:
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Patricia
Price, y Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd,
Prifysgol Caerdydd, Mike Davies, Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Caerdydd, yr
Athro Michael Scott, Is-Ganghellor a
Phrif Weithredwr, Prifysgol Glyndŵr, Paul Whiting, Cyfarwyddwr Cyllid,
Prifysgol Glyndŵr ac Andrew Parry, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol,
Prifysgol Glyndŵr, o ran cyllido addysg uwch.
Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: ystyried tystion llafar
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y papur a chytunodd ar y
rhestr arfaethedig o dystion, gan ychwanegu'r Prif Gynghorwr Gwyddonol at y
rhestr.
Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynnydd
Dogfennau ategol:
- Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, Eitem 2 PDF 67 KB Gweld fel HTML (2/1) 58 KB
Cofnodion:
2.1 Nododd
y Pwyllgor y papur.
Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Sesiwn friffio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Dr David Blaney, Prif Weithredwr, CCAUC
Celia Hunt, Pennaeth Sgiliau, Addysg a Chyllido, CCAUC
Bethan Owen, Pennaeth Ymgysylltu Sefydliadol, CCAUC
Cofnodion:
5.1
Rhoddodd cynrychiolwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drosolwg i’r
Pwyllgor o sut y caiff Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru eu hariannu.
5.2 Cytunodd
HEFCW i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
Nodyn ar gyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd sy’n mynd drwy Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch - Tystiolaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau
FIN(4)-10-13 Papur 3
Leighton Andrews AM, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau
Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Papur 3, Eitem 3 PDF 958 KB
- ythyr at Ann Jones - Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Eitem 3 PDF 146 KB
- Pwyntiau gweithredu Llythyr gan Leighton Andrews ar - Cam 1 Craffu o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Bill Gwybodaeth Iechyd Cymru Llywodraethu a) (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 162 KB Gweld fel HTML (3/3) 189 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Carla Lyne,
Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Cyllid.
3.2 Ymatebodd y
Gweinidog a’r swyddog i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
3.3 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:
·
Nodyn
ar y newidiadau y gallai’r Gweinidog eu gwneud i amodau ariannu sefydliadau
addysg uwch.
·
Canran
yr arian i sefydliadau addysg uwch sy’n dod gan Lywodraeth Cymru.
3.4 Cytunodd y
tîm clercio i roi trawsgrifiad o’r sesiwn Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil
Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ar 15 Mai i’r
Aelodau.
3.5 Cytunodd y
Clerc i ddrafftio llythyr i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn nodi amheuon y
Pwyllgor ynghylch ‘rheolaethau anneddfwriaethol’.
Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Cyllido Addysg Uwch – Ystyried cylch gorchwyl drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 88 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Ystyriodd y
Pwyllgor Gylch Gorchwyl drafft ei ymchwiliad sydd ar ddod ynghylch Cyllido
Addysg Uwch a thrafododd ddulliau o ymdrin â’r ymchwiliad.
Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Cyllido Addysg Uwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 91 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas ymchwiliad posibl i Addysg Uwch yng Nghymru a chytunodd i ystyried papur opsiynau mewn cyfarfod yn y dyfodol.