Cyfarfodydd

P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/10/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â phedair deiseb arall yn ymwneud â diwygio ADY, a chymorth a chyllid ar gyfer darpariaeth ADY. Nododd yr Aelodau fod y Gweinidog eisoes yn gweithio gydag ymgyrchwyr i fynd i’r afael â phryderon, a’r gwaith parhaus yn y maes hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y disgwylir iddo adrodd eto erbyn diwedd y Senedd. At hynny, mae yna ddadleuon ar ddod yn y Senedd, a fydd yn mynd i’r afael â’r mater. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 20/05/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 8 Mai 2024.

 

Yng ngoleuni’r ymateb manwl helaeth a gafwyd gan Diwygio ADY yng Nghymru, cytunodd yr Aelodau i’w anfon ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd, gan gynnwys sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithio gydag ymgyrchwyr fel Diwygio ADY yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 08/05/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

NDM8567 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ a gasglodd 15,160 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.40

NDM8567 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ a gasglodd 15,160 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais am ddadl ar y mater. Bu sawl deiseb yn codi pryderon am y Cod ADY – a’r broses o’i roi ar waith – a chyfeirir at y deisebau eraill pan fydd y ddeiseb hon yn cael ei thrafod.