Cyfarfodydd

P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/04/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 1)

P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Cofnodion:

Gwnaeth Peredur Owen Griffiths AS gywiriad ffeithiol i sylwadau a wnaed yn ystod trafodaeth ddiwethaf y Pwyllgor ar y ddeiseb ar 18 Mawrth.

 

 


Cyfarfod: 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024 a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon rhieni ledled Cymru.

 

Yn sgil y ddadl ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig.

 

Yn ogystal â chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd.

 


Cyfarfod: 31/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Dadl ar ddeiseb P-06-1359 a deiseb P-06-1362 ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM8467 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant:

a) deiseb ‘P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ a gasglodd 10,820 o lofnodion; a

b) deiseb 'P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024'  a gasglodd 407 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 11/01/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Eitem 7)

7 P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr a Deiseb P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â’r ddeiseb P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes, cytunodd yr Aelodau, os bydd yr atebion i gwestiynau a godir ynghylch y ddau ddeisebydd yn cael eu canfod yn y gwaith craffu ar y gyllideb, yna bydd y cais am ddadl yn cael ei dynnu'n ôl.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn dwyn y ddwy ddeiseb i'w sylw a gofyn iddynt ystyried y materion a godwyd yn y ddwy ddeiseb yn eu gwaith craffu ar y gyllideb.

 


Cyfarfod: 09/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n dad i blentyn 3 oed a baban dau fis oed.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y llythyr a ddaeth i law gan Oxfam Cymru. Cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw at y materion a godwyd a cheisio rhagor o eglurder gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.