Cyfarfodydd

P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch yr ymateb gan Gyngor Sir Powys i lythyr y Pwyllgor yn gofyn am arwyddion cyfeiriadol at y safle. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, fodd bynnag, nad oedd llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud a chytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.

 

Wrth gau'r ddeiseb cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ysgrifennu yn ôl at Gyngor Sir Powys i fynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch yr ymateb a gafwyd.

 


Cyfarfod: 09/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys yn gofyn am arwyddion i gyfeirio ymwelwyr at y safle ac arwydd mwy amlwg wrth gyrraedd y safle.

 


Cyfarfod: 13/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar ddeiseb P-06-1337 - Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

NDM8345 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol’ a gasglodd 10,539 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Medi, cyn diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 Medi.

 

Nodwyd y bydd Aelodau unigol o bosibl yn dymuno cyfeirio at ddeisebau eraill yn ystod y ddadl, fel y ddeiseb sy’n galw am gynlluniau rheoli a chadwraeth gorfodol ar gyfer henebion cofrestredig.

 

Hefyd, cytunodd yr Aelodau i ymweld â'r safle cyn i'r ddadl gael ei chynnal yn nhymor yr hydref.