Cyfarfodydd

P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

 


Cyfarfod: 24/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, ond cyn gwneud hynny i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog i ofyn am ymateb i gwestiynau diweddaraf y deisebydd. Byddai'r ymateb yn cael ei anfon at y deisebydd. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at Bencampwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer gwiwerod coch, Darren Millar AS; Alun Davies AS, a oedd wedi codi'r mater yn y Siambr; ac Aelodau Gogledd Cymru – yr ardal sydd â’r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch – i dynnu sylw at y ddeiseb er gwybodaeth iddynt.

 


Cyfarfod: 23/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn - a oedd yn cynnwys apêl gan Aelod i'w hysbysu am gynnydd. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor a gofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa ymhen 12 mis.

 


Cyfarfod: 27/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar ddeiseb P-06-1332 - Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM8359 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod’ a gasglodd 11,306 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor Busnes am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon.