Cyfarfodydd

SL(6)319 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/03/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 – 24 Ionawr 2023

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 11)

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

NDM8209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

11

48

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 13/02/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 2)

2 SL(6)319 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.