Cyfarfodydd

P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1304 Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Yng ngoleuni'r ymchwiliad manwl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, yr argymhellion a wnaed ganddynt ac ymateb Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod mwy o gamau ataliol yn cael eu cymryd, a bod cymorth a llety priodol ar gael hefyd, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1304 Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl i ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ddigartrefedd gael ei gyhoeddi ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo.

 


Cyfarfod: 01/12/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein Cymunedau.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

  • dynnu sylw’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y ddeiseb am ei fod yn cynnal ymchwiliad i ddigartrefedd yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • aros am ganlyniad yr ymchwiliad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo; ac
  • ysgrifennu at yr Heddlu lleol a gofyn a ydynt yn ymwybodol o'r materion.