Cyfarfodydd

P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Senedd. Diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig hwn ac am eu sylwadau diweddaraf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl a chaeodd y ddeiseb.   

 


Cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8146 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gasglodd 20,889 o lofnodion.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl ar y ddeiseb, ac i argymell bod y ddadl yn cael ei chynnal cyn diwedd y flwyddyn i gyd-fynd â’r hanner can mlwyddiant.