Cyfarfodydd

P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor falch oedd y deisebwyr o ddod â’r materion i ddadl yn y Senedd ac i gryfder teimladau’r cyhoedd a gweithwyr nyrsio proffesiynol gael ei amlygu.

 

O ganlyniad i’r ddadl, cytunodd y Pwyllgor ei fod wedi mynd â’r ddeiseb cyn belled ag y gall, a dymunodd yn dda i’r Coleg Nyrsio Brenhinol â’i ymgyrchoedd yn y dyfodol, a chaeodd y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar ddeiseb P-06-1276 - Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

NDM8077 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd 10,572 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM8077 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd 10,572 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1276: Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac i drefnu hyn ar gyfer dydd Mercher 28 Medi. 

 

 


Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddechrau tymor yr hydref.