P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 10,572
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n
achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau
ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos – ac nid yw'n ddigon o hyd. Mae ymchwil yn
dangos, os oes llai o nyrsys, mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac,
yn gyffredinol, mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn cyfnodau cymhleth o aros
yn yr ysbyty. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff
Nyrsio (Cymru) 2016 i ddarparu’r tîm llawn o nyrsys sydd eu hangen yn daer ar y
cyhoedd yng Nghymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn
ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru gymryd
pob cam rhesymol i gynnal lefel benodedig o staff nyrsio. Lefelau staff nyrsio
yw nifer y nyrsys, a’u cymysgedd sgiliau, sydd eu hangen i ddarparu gofal
sensitif i gleifion. At hynny, rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau roi
gwybod i’r cyhoedd am y lefelau staff nyrsio ar unrhyw ward sy’n cael ei gynnwys
o dan Adran 25B.
Pan basiwyd y gyfraith am y tro cyntaf, roedd Adran 25B yn berthnasol i
wardiau oedolion meddygol a llawfeddygol acíwt yn unig. Ar 1 Hydref 2021,
cafodd hyn ei ymestyn i wardiau plant. Rydym am iddo fod yn berthnasol ym mhob
lleoliad lle darperir gofal nyrsio, gan ddechrau gyda wardiau cleifion mewnol
iechyd meddwl a nyrsio cymunedol.
Dilynwch ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a chymerwch ran
#ForTheFullTeam.
Gwefan: https://forthefullteam.com
Twitter: https://twitter.com/RCNWales
Facebook: https://www.facebook.com/RCNWales.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor falch oedd y deisebwyr o
ddod â’r materion i ddadl yn y Senedd ac i gryfder teimladau’r cyhoedd a
gweithwyr nyrsio proffesiynol gael ei amlygu.
O ganlyniad i’r ddadl, cytunodd y Pwyllgor ei fod wedi mynd â’r ddeiseb cyn
belled ag y gall, a dymunodd yn dda i’r Coleg Nyrsio Brenhinol â’i ymgyrchoedd
yn y dyfodol, a chaeodd y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/06/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynon
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2022