Cyfarfodydd
P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 12 Hydref 2022 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 342 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor falch oedd y deisebwyr o ddod â’r materion i
ddadl yn y Senedd ac i gryfder teimladau’r cyhoedd a gweithwyr nyrsio
proffesiynol gael ei amlygu.
O ganlyniad i’r
ddadl, cytunodd y Pwyllgor ei fod wedi mynd â’r ddeiseb cyn belled ag y gall, a
dymunodd yn dda i’r Coleg Nyrsio Brenhinol â’i ymgyrchoedd yn y dyfodol, a
chaeodd y ddeiseb.
Cyfarfod: 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276 - Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
NDM8077 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn
nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276
Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd
10,572 o lofnodion.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.39
NDM8077 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy)
Cynnig
bod y Senedd:
Yn
nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)
2016’,
a gasglodd 10,572 o lofnodion.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais
y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1276: Ymestyn adran 25B o
Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac i drefnu hyn ar gyfer dydd
Mercher 28 Medi.
Cyfarfod: 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Dogfennau ategol:
- Papur briffio gan Ymchwil y Senedd, Eitem 3 PDF 216 KB Gweld fel HTML (3/1) 77 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 12 Mai 2022, Eitem 3 PDF 171 KB
- Gohebiaeth gan y Deisebydd, 6 Mehefin 2022 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 505 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am
gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddechrau tymor yr hydref.