Cyfarfodydd

P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru   

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn gynharach eleni a'r cyhoeddiad diweddar gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ddatblygu rhaglen wella genedlaethol newydd ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol.

 

O ystyried y cyhoeddiad hwn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd a phawb sydd wedi ymgyrchu dros wasanaethau priodol i’r rheini â syndrom Tourette yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 25/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar ddeiseb P-06-1249 - Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM8008 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru’ a gasglodd 10,393 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.