Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

NDM7907 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pensiynau a Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Pensiynau A Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7907 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pensiynau a Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Pensiynau A Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Nodyn Cyngor Cyfreithiol ar y Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.

 


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.

 


Cyfarfod: 29/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan Jill Youds, Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau at y Llywydd ynghylch Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - 9 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol – Gohebiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.

 


Cyfarfod: 10/11/2021 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd: Cynllun Pensiwn Aelodau Senedd Cymru – 19 Hydref 2021

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Bwrdd Taliadau: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

LJC(6)-11-21 - Papur 9 - Llythyr gan y Bwrdd Taliadau i’r Llywydd, 19 Hydref 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Bwrdd Taliadau.

 


Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ac yn ystyried yr adroddiad drafft a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau, bydd yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.

 


Cyfarfod: 18/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft.

LJC(6)-10-21 - Papur 9 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 14)

14 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

 

LJC(6)-09-21 – Papur 27 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.