Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

 


Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau.

 


Cyfarfod: 03/03/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

NDM7927 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rheoli Cymorthdaliadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2021 a 6 Ionawr 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 2)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7927 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rheoli Cymorthdaliadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2021 a 6 Ionawr 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 2)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

37

52

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Memorandwm Rhif 2) - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 10)

10 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

  • Nodyn Cyngor Cyfreithiol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau. Mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gyda’r Bil.


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.

 


Cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 4)

4 Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Rebecca Evans AS – y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Gwenllian Roberts - Prif Swyddog Rhanbarthol – y Gogledd

James Fenwick - Uwch Swyddog Polisi Cymorth Gwladwriaethol

Dogfennau ategol:

  • Briff Ymchwil
  • Nodyn Cyngor Cyfreithiol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

4.1 Bu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, a Swyddogion Llywodraeth Cymru’n ateb cwestiynau Aelodau'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 11/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Rheoli Cymorthdaliadau

 

LJC(6)-09-21 – Papur 26 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.