Cyfarfodydd
NDM7626 Welsh Conservatives debate - NHS Waiting Times
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amseroedd aros y GIG
NDM7626 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf
ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am
driniaeth.
2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7
bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth
wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.
3. Yn credu bod Llywodraeth
Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:
a) clirio'r ôl-groniad o
driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) recriwtio o leiaf 1,200 o
feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac
c) trawsnewid iechyd meddwl
drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws
uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y
GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau
arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y
gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff
iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r
gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng
iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2. Mark Reckless
(Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal
iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru.
Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdrin â gofal
iechyd gydag un Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Cyd-gyflwynwr
Gareth Bennett
(Canol De Cymru)
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3. Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n
hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y
gwrthodwyd lle i fwy na 54 y cant o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU i gyrsiau nyrsio
ers 2010.
Yn credu bod GIG Cymru wedi cael ei ddal yn ôl gan
lywodraethau'r DU a Chymru oherwydd diffyg llwyr o gynllunio gweithlu dros sawl
degawd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda darparwyr addysg uwch y DU i ddarparu
mwy o leoedd hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU;
b) gweithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff
proffesiynol i asesu gwir anghenion staffio GIG Cymru;
c) recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal
iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr o ran amseroedd
aros am driniaeth yn ogystal ag amseroedd aros am ddiagnosis;
d) sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na 12 mis am
driniaeth; ac
e) trawsnewid iechyd meddwl drwy sicrhau ei fod yn cael
ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol.
Gwelliant 4. Siân Gwenllian
(Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r unig ffordd o drawsnewid iechyd a gofal yw
drwy:
a) ffocws newydd ar fesurau ataliol; a
b) integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor drwy
wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig newydd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7626 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf
ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am
driniaeth.
2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7
bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth
wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.
3. Yn credu bod Llywodraeth
Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:
a) clirio'r ôl-groniad o
driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) recriwtio o leiaf 1,200 o
feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac
c) trawsnewid iechyd meddwl
drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws
uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y
GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau
arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y
gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff
iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r
gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng
iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
2 |
20 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol
Gwelliant 4. Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r unig ffordd o
drawsnewid iechyd a gofal yw drwy:
a) ffocws newydd ar fesurau
ataliol; a
b) integreiddio iechyd a gofal
cymdeithasol yn ddi-dor drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig
newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7626 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar
restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
2. Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio
pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i
ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn
destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth
iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff
iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r
gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng
iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
8 |
14 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd