Cyfarfodydd

NDM7543 Petitions P-05-1053, P-05-1063, P-05-1074 concerning access to facilities for sport and physical activity during lockdowns:

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud

NDM7543 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud:

a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac

c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.