Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol
P-05-1063 Dylid agor cyrsiau
golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac
iechyd meddyliol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sam Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 6,317
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'n ffaith hysbys bod golff, a gweithgarwch corfforol o ran hynny, yn
gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol! Mae golff ymysg yr ychydig
chwaraeon y gallwch chi gymryd rhan ynddynt a bod yn ddiogel yr un pryd trwy
gadw pellter cymdeithasol, ac o ystyried y ffocws cyfredol ar iechyd meddwl,
nid wyf yn credu ei bod yn benderfyniad doeth amddifadu rhai pobl o’r unig fath
o ymarfer corff sydd ganddynt.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020