Cyfarfodydd

P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i argymhellion ym mis Mawrth 2021 a:

  • bod y ddwy ddeiseb wedi llwyddo i dynnu sylw at yr angen i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau a chyfraniadau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghwricwlwm Cymru,
  • diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y materion pwysig hyn a chau’r deisebau; ac
  • wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am roi'r argymhelliad ar waith ddiwedd mis Mawrth 2022, gan gytuno i rannu'r ymateb hwnnw â'r deisebwyr.

 

 

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y deisebau, a chytunodd i drosglwyddo'r deisebau i'w bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd, i'w alluogi i barhau i graffu ar ddatblygiad adnoddau addysgu newydd ac anghenion dysgu proffesiynol.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         grwpio’r ddeiseb gyda deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru, a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol;

·         aros am sylwadau pellach gan y deisebydd i’r ymateb i’r ddeiseb a roddwyd gan y Gweinidog Addysg; ac

·         ysgrifennu at Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i ofyn iddynt am wybodaeth bellach am eu gwaith mewn perthynas â hiliaeth a’r system addysg yng Nghymru y cyfeirir ati yn adroddiad Hiliaeth yng Nghymru? a gofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb hon a P-05-1000.