Cyfarfodydd
Election Transition to Sixth Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ynghylch yr agoriad swyddogol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddwyd amlinelliad i'r Comisiynwyr o'r cynlluniau ar gyfer yr Agoriad
Swyddogol, a fyddai’n cael ei gynnal ar Ystâd y Senedd ym mis Hydref.
Fe wnaethant nodi
trefn y rhaglen a chytunwyd ar ddull o ymdrin ag agweddau ar liniaru risg, yn
ymwneud â'r sefyllfa COVID barhaus, yn benodol o ran defnyddio profion llif
unffordd a masgiau wyneb, heblaw am y rhai y mae angen iddynt siarad fel rhan
o'r agoriad.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Pontio dros gyfnod yr etholiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
A - Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd
Rhoddwyd trosolwg i'r Comisiynwyr o'r dull o gynllunio ar
gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd, gan adlewyrchu y byddai ar ffurf
wahanol i achlysuron blaenorol. Byddai’r agoriad yn canolbwyntio ar gyfuniad o
ddigwyddiadau rhithwir a ffisegol i nodi’r achlysur mewn ffordd ddiogel o ran
covid.
B - Trefniadau ar
gyfer busnes y Comisiwn yn ystod cyfnod yr etholiad
Cytunodd y Comisiynwyr y gellir ymdrin â materion y mae
angen eu trafod yn ystod cyfnod y toriad, y diddymiad a’r cyfnod cyn yr etholir
y Comisiynwyr newydd drwy ohebiaeth e-bost, oni bai bod y Comisiynwyr neu'r
Llywydd yn teimlo bod angen cyfarfod.
C - Gohirio penderfyniad yn ymwneud â llogi
swyddfeydd at ddefnydd personol, o gyfarfod y Comisiwn ym mis Chwefror
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Bwrdd Taliadau mewn ymateb i'w cais i
ddeall safbwynt y Bwrdd o ran unrhyw ddefnydd personol o swyddfeydd lleol yn
ystod y cyfnod cyn y diddymiad.
Roedd y Bwrdd wedi cytuno i ganiatáu i Aelodau sy’n sefyll i gael eu
hailethol logi eu swyddfeydd lleol at ddefnydd personol yn ystod y cyfnod cyn y
diddymiad. Roeddent wedi nodi amodau penodol gan gynnwys dileu/gorchuddio
arwyddion, yr angen i gytuno ymlaen llaw i dalu 100 y cant o'r costau, a phe
bai Aelod yn penderfynu rhentu'r swyddfa at ei ddefnydd personol, ni ddylid
ystyried bod hyn yn atal yr Aelod rhag defnyddio'r swyddfa hefyd ar gyfer y
gweithgareddau a ganiateir. Gall hyn olygu bod staff sy’n canolbwyntio ar waith
achos wedi’u lleoli mewn swyddfa a gafodd ei llogi gan yr Aelod at ddibenion
ymgyrchu. Gwnaethant ofyn a allai’r Comisiwn, yn y cyfnod cyn yr etholiad,
gyhoeddi rhestr o’r rhai sydd wedi ymrwymo i’r cytundebau hyn.
Cytunodd y Comisiynwyr i ymestyn y cyfnod y mae llogi swyddfeydd
etholaethol neu ranbarthol at ddefnydd personol yn opsiwn i gynnwys cyfnod y
diddymiad ffurfiol. Felly, byddent ar gael i’w llogi am holl gyfnod yr
etholiad, a byddai manteisio ar yr opsiwn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod
dalu 100 y cant o'r costau, a byddai’n glir mai'r Aelod, nad y trethdalwr, sy'n
talu costau’r swyddfa tra bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau
ymgyrchu.
O ran defnyddio offer
a gwasanaethau TGCh at ddibenion personol/ymgyrchu yn ystod cyfnod
yr etholiad, byddai’r Comisiwn yn cynghori’r Aelodau y dylai unigolion sydd am
logi offer chwilio am opsiynau sydd ar gael yn fasnachol.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyfnod pontio etholiadol - Bil Etholiad Cyffredinol Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Gomisiwn y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr asesiad o effaith Bil Etholiad
Cyffredinol Cymru (Coronafeirws) (“y Bil”) Llywodraeth Cymru ar Gomisiwn y
Senedd. Roedd y rhain yn ymwneud yn arbennig â
darpariaethau'r Bil i gwtogi ar gyfnod y diddymu, i ymestyn y pŵer
i amrywio dyddiad yr etholiad ac i ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid i'r Senedd
gynnal ei gyfarfod cyntaf ar ôl y bleidlais.
Ystyriodd y
Comisiynwyr benderfyniadau allweddol fel paratoad ar gyfer deddfiad posibl y
Bil. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â chyfnod etholiad a fyddai'n cynnwys 7
Ebrill - 28 Ebrill ('cyn-ddiddymu') a 29 Ebrill - 5 Mai (y cyfnod diddymu
byrrach). Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfyngiadau gwariant llym yn berthnasol i
bob ymgeisydd o dan y gyfraith etholiadol.
Nododd y Comisiynwyr y dylid sicrhau chwarae teg i
bob ymgeisydd yn ystod cyfnod yr etholiad, cyn belled ag y bo modd, er mwyn
sicrhau etholiad teg a chyfle cyfartal i bawb; a, gan y byddai'r Bil yn creu
amgylchiad anarferol, byddai angen cyhoeddi Rheolau a chanllawiau ychwanegol
mewn perthynas â chyfnod yr etholiad.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr egwyddor y dylid, yn
ystod y cyfnod cyn diddymu, ond darparu Aelodau ag adnoddau sy’n angenrheidiol
i gyflawni busnes y Senedd sy'n gysylltiedig â byrhau’r diddymu, fel y mynegwyd
yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil, hynny yw:
·
gallu pennu dyddiad ar gyfer y
bleidlais ar gyfer yr etholiad os bydd angen gohirio'r etholiad am reswm sy'n
ymwneud â coronafeirws; a
·
galluogi'r Senedd bresennol i
ymateb, os bydd angen gwneud hynny, i'r materion iechyd y cyhoedd sy'n datblygu
yn arwain at yr etholiad.
Er mwyn gweithredu'r egwyddor, cytunodd y Comisiynwyr:
a) ar gyfer cyfnod yr etholiad (diddymu a chyn-ddiddymu gyda'i
gilydd), gall pob Aelod gadw’r mynediad sydd ganddynt i’w proffiliau TGCh
presennol. Byddai'r proffiliau hyn yn cael eu cyfyngu i gael gwared ar fynediad
at gyfryngau cymdeithasol, cyfrifon gwe-bost a'r fewnrwyd (bydd mewnrwyd
diddymu ar gael o hyd). Yn ogystal, gall pob Aelod enwebu un o'u staff i gadw
eu proffil presennol gyda chyfyngiadau yn yr un modd er mwyn galluogi cymorth i
fod ar gael pe bai’r Senedd yn cael ei hadalw (gallai hyn gynnwys staff
rhan-amser hyd at 1 cyfwerth ag amser llawn, ond rhaid cynnwys oriau contract
llawn y staff cymorth na chaniateir iddynt fod yn fwy nag 1 cyfwerth ag amser
llawn wedi’u cyfuno). Ni chaiff y staff cymorth a enwebir fod yn ymgeisydd eu
hunain. Byddai'r darpariaethau hyn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol o
hyd at 4 proffil TGCh dros dro fesul Aelod a enwebir ar gyfer unigolion. Bydd
aelodau'n cael eu hatgoffa'n gadarn o'u cyfrifoldeb i sicrhau bod eu cyfrifon
yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n amddiffyn eu hunain rhag y perygl o
gŵyn, neu gadarnhau cwyn;
b) caiff mynediad i ystâd y Senedd ei gyfyngu o 7 Ebrill, ond bydd pasys diogelwch Aelodau a’u staff ar gyfer yr adeilad yn cael eu diffodd, yn hytrach na bod angen iddyn nhw gael eu dychwelyd. Os caiff y Senedd ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Croeso, Cynefino a Dysgu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr drosolwg o'r trefniadau croesawu a chynefino arfaethedig ar gyfer
Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Senedd yn 2021; a hefyd argymhellion ar
gyfer rhaglen ddysgu Aelodau a staff cymorth yn y Chweched Senedd. Fe wnaethant
nodi gwybodaeth am ddehongli’r Rheolau Sefydlog i alluogi cymryd llw o bell a
newidiadau arfaethedig i basys diogelwch ar gyfer priod/partner.
Nododd y Comisiynwyr y
trefniadau croesawu a chynefino arfaethedig, gan gydnabod y sylfeini cryf ar
gyfer y ddarpariaeth, a’r cyfeiriad cyffredinol a’r dull amlinellol ar gyfer
rhaglen ddysgu’r Aelodau yn y Chweched Senedd.
Trafododd y
Comisiynwyr bwysigrwydd elfennau o'r pecyn cynefino a hyfforddi, a cytunwyd y
dylid eu hystyried yn gynnwys hanfodol, yn enwedig y Cod Ymddygiad, Urddas a
Pharch, y Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau, cyfrifoldebau fel cyflogwr ac fel
rheolydd data, a seiber-ddiogelwch.
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Asedau’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr bapur yn rhoi gwybod iddynt am y
dull arfaethedig o ddefnyddio a dychwelyd asedau'r Senedd yn ystod y cyfnod o
Ionawr 2021 a thrwy’r etholiad gan gynnwys y trefniadau dirwyn i ben ar gyfer
Aelodau na chânt eu hail-ethol.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull o drin asedau'r Senedd fel rhan o
drefniadau dirwyn i ben yr Aelodau:
·
Dylid dychwelyd pob eitem a all roi gwerth am arian drwy gael
ei hailddefnyddio neu ei hail-bwrpasu gan y Comisiwn.
·
O ran eitemau eraill, lle byddai costau ychwanegol neu
bwysau adnoddau (e.e. anghenion storio) yn anghymesur neu’n methu â rhoi gwerth
am arian, dylai’r Aelod dan sylw gael gwared arnynt, a dylid cytuno ar y dull
ar gyfer gwneud hynny drwy ei gynllun dirwyn i ben.
·
Dylid cael gwared ar eitemau mewn modd cynaliadwy
(ail-bwrpasu/ailgylchu) ac ni ddylai’r Aelod na'i staff elwa’n bersonol o
ganlyniad i hynny.
Nododd y Comisiwn y
materion a godwyd mewn perthynas â chanfyddiadau’r cyhoedd o ddefnydd darbodus
o adnoddau yn y cyfnod cyn yr etholiad, a’r angen i ddangos egwyddorion gwerth
am arian ym misoedd olaf y Pumed Senedd a’r cyfnod dirwyn i ben.
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Dyraniad TGCh yr Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Cyflwynwyd opsiynau ac
argymhellion i’r Comisiynwyr ar gyfer dyrannu Technoleg Gwybodaeth a
Chyfathrebu (TGCh) i Aelodau a'u staff cymorth yn y Chweched Senedd. Cododd y
Comisiynwyr nifer o bwyntiau i'w hegluro, a thrafodwyd y dulliau ar gyfer
gwaredu offer nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach.
Cytunwyd y byddai
fersiwn fyrrach o'r papur yn cael ei thrafod gyda'r Comisiynwyr bob yn un, fel
y gallent ddarparu adborth ysgrifenedig gan eu grwpiau am ddyraniad TGCh
arfaethedig yr Aelodau ar gyfer y Chweched Senedd, gan gofio bod angen bod yn
ddarbodus wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Pontio dros gyfnod yr etholiad
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr y sefyllfa o ran bwriad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn y
flwyddyn newydd yn ymwneud ag etholiad 2021. Byddai'r ddeddfwriaeth yn debygol
o ddefnyddio'r weithdrefn frys oherwydd yr amser sydd ar gael. Y disgwyl oedd y
byddai'r ddeddfwriaeth yn cynyddu'r cyfnod y gellid amrywio'r etholiad, a byddai'n
debygol o gynnig lleihau hyd Diddymu’r Senedd, a fyddai'n cael ei ddatgysylltu
o'r cyfnod cyn yr etholiad.
Trafododd y
Comisiynwyr yr amserlenni a'r goblygiadau a ragwelir ar gyfer y Comisiwn, gan
gynnwys y goblygiadau ar gyfer y penderfyniadau a wnaed eisoes ynghylch
mynediad at adnoddau yn ystod y broses Ddiddymu.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Pontio dros gyfnod yr etholiad: Diddymiad - Defnyddio Adnoddau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr bapur wnaeth roi’r wybodaeth angenrheidiol iddynt i
wneud y penderfyniadau perthnasol o bwys mawr yngylch i ba raddau y dylai
Aelodau allu cyrchu a defnyddio Adnoddau'r Senedd yn ystod y diddymiad, lle
gellir defnyddio disgresiwn.
Gwnaeth y Comisiynwyr benderfyniadau mewn saith maes fel bod gwybodaeth a
chanllawiau manwl yn cael eu rhoi i'r Aelodau yn amserol, gan eu galluogi i
baratoi'n briodol ar gyfer cyfnod y Diddymiad.
Cytunodd y Comisiynwyr i alluogi mynediad cyfyngedig at adnoddau’r Senedd
ar gyfer gwaith achos a thasgau gweinyddol arferol yn unig, gan gynnwys
galluogi swyddfeydd etholaethol neu ranbarthol i gael eu defnyddio at y
dibenion hynny’n unig.
Gallai swyddfeydd Aelodau fod ar gael at ddibenion personol yn unig – er
enghraifft ar gyfer ymgyrchu – os yw’r Aelodau'n rhentu'r adnoddau swyddfa a
TGCh, a chodir 100 y cant o’r gost arnynt. Byddai angen gosod y trefniant hwnnw
yn ei le cyn cyfnod y Diddymiad.
Gellir rhentu ffonau symudol a ffonau clyfar trwy gydol cyfnod y Diddymiad,
neu eu rhoi yn ôl.
Bydd mynediad i Ystâd y Senedd yn ystod cyfnod y Diddymiad ar gyfer Aelodau
a'u staff yn cael ei gyfyngu i'r ardaloedd cyhoeddus, ac eithrio deiliaid
swyddi y mae eu cyfrifoldebau’n parhau, lle cânt fynediad at ddibenion eu
swyddogaethau fel deiliaid swyddi.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddarparu cefnogaeth all-leoli i'r Aelodau a'u
staff.
Nododd y Comisiynwyr
bod disgwyliad i’r rheini sy’n rhoi’r gorau i fod yn Aelodau i anelu at ddirwyn
eu swyddfeydd i ben cyn pen chwe wythnos ar ôl diddymu'r Pumed Senedd.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Pontio o ran yr Etholiad – y dull gweithredu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Nododd y Comisiwn wybodaeth a ddarparwyd am gynllunio ar
gyfer diddymu’r Pumed Cynulliad a’r cyfnod pontio dros gyfnod etholiad 2021.
Cytunodd y Comisiynwyr
i ystyried materion penodol i wneud penderfyniad yn eu cylch mewn cyfarfodydd
yn ddiweddarach yn 2020.