Agenda item

Cyfnod pontio etholiadol - Bil Etholiad Cyffredinol Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr asesiad o effaith Bil Etholiad Cyffredinol Cymru (Coronafeirws) (“y Bil”) Llywodraeth Cymru ar Gomisiwn y Senedd. Roedd y rhain yn ymwneud yn arbennig â  darpariaethau'r Bil i gwtogi ar gyfnod y diddymu, i ymestyn y pŵer i amrywio dyddiad yr etholiad ac i ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid i'r Senedd gynnal ei gyfarfod cyntaf ar ôl y bleidlais.

Ystyriodd y Comisiynwyr benderfyniadau allweddol fel paratoad ar gyfer deddfiad posibl y Bil. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â chyfnod etholiad a fyddai'n cynnwys 7 Ebrill - 28 Ebrill ('cyn-ddiddymu') a 29 Ebrill - 5 Mai (y cyfnod diddymu byrrach). Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfyngiadau gwariant llym yn berthnasol i bob ymgeisydd o dan y gyfraith etholiadol.

Nododd y Comisiynwyr y dylid sicrhau chwarae teg i bob ymgeisydd yn ystod cyfnod yr etholiad, cyn belled ag y bo modd, er mwyn sicrhau etholiad teg a chyfle cyfartal i bawb; a, gan y byddai'r Bil yn creu amgylchiad anarferol, byddai angen cyhoeddi Rheolau a chanllawiau ychwanegol mewn perthynas â chyfnod yr etholiad.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr egwyddor y dylid, yn ystod y cyfnod cyn diddymu, ond darparu Aelodau ag adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni busnes y Senedd sy'n gysylltiedig â byrhau’r diddymu, fel y mynegwyd yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil, hynny yw:

·         gallu pennu dyddiad ar gyfer y bleidlais ar gyfer yr etholiad os bydd angen gohirio'r etholiad am reswm sy'n ymwneud â coronafeirws; a

·         galluogi'r Senedd bresennol i ymateb, os bydd angen gwneud hynny, i'r materion iechyd y cyhoedd sy'n datblygu yn arwain at yr etholiad.

Er mwyn gweithredu'r egwyddor, cytunodd y Comisiynwyr:

a)    ar gyfer cyfnod yr etholiad (diddymu a chyn-ddiddymu gyda'i gilydd), gall pob Aelod gadw’r mynediad sydd ganddynt i’w proffiliau TGCh presennol. Byddai'r proffiliau hyn yn cael eu cyfyngu i gael gwared ar fynediad at gyfryngau cymdeithasol, cyfrifon gwe-bost a'r fewnrwyd (bydd mewnrwyd diddymu ar gael o hyd). Yn ogystal, gall pob Aelod enwebu un o'u staff i gadw eu proffil presennol gyda chyfyngiadau yn yr un modd er mwyn galluogi cymorth i fod ar gael pe bai’r Senedd yn cael ei hadalw (gallai hyn gynnwys staff rhan-amser hyd at 1 cyfwerth ag amser llawn, ond rhaid cynnwys oriau contract llawn y staff cymorth na chaniateir iddynt fod yn fwy nag 1 cyfwerth ag amser llawn wedi’u cyfuno). Ni chaiff y staff cymorth a enwebir fod yn ymgeisydd eu hunain. Byddai'r darpariaethau hyn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol o hyd at 4 proffil TGCh dros dro fesul Aelod a enwebir ar gyfer unigolion. Bydd aelodau'n cael eu hatgoffa'n gadarn o'u cyfrifoldeb i sicrhau bod eu cyfrifon yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n amddiffyn eu hunain rhag y perygl o gŵyn, neu gadarnhau cwyn;

b)    caiff mynediad i ystâd y Senedd ei gyfyngu o 7 Ebrill, ond bydd pasys diogelwch Aelodau a’u staff ar gyfer yr adeilad yn cael eu diffodd, yn hytrach na bod angen iddyn nhw gael eu dychwelyd. Os caiff y Senedd ei hadalw, bydd pasys yn cael eu gwneud yn weithredol unwaith eto;

c)    dylai Aelodau a'u staff glirio eu swyddfeydd erbyn 6 Ebrill, o fewn gofynion rheoliadau Covid, gan gael gwared ar eitemau personol cymaint â phosibl, a threfnu hynny cyn cyfnod yr etholiad er mwyn sicrhau bod yr unigolion o dan sylw yn cadw pellter cymdeithasol.

d)    Byddai cefnogaeth y Senedd ar gyfer gwaith achos yn ystod cyfnod yr etholiad yn cael ei gyfyngu yn unol â’r trefniadau ar gyfer y diddymu. Bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol ar y we, a fyddai wedyn ar gael i unrhyw Aelod ac ymgeisydd. Ni chaiff Aelodau na'u staff gyflwyno unrhyw geisiadau i'r Gwasanaeth Ymchwil, y Gwasanaeth Cyfreithiol na’r Gwasanaeth Cyfieithu ar ôl dechrau cyfnod yr etholiad;

e)    caiff mynediad i arian cyhoeddus at ddibenion gweithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys ar gyfer hysbysiadau cymorthfeydd, argraffu canolog a gwasanaethau post, eu tynnu’n ôl yn ystod cyfnod yr etholiad; ac

f)     gellir cadw ffonau symudol/cardiau SIM a ddefnyddir i hwyluso gweithio gartref yn ystod y cyfyngiadau symud at ddibenion a ganiateir yn ystod y diddymu, pan fydd gweithio gartref yn parhau, ac ni fyddant yn destun taliadau llogi, na'r angen i ddychwelyd yr eitem i'r Comisiwn am y cyfnod diddymu.

Gohiriodd y Comisiynwyr benderfyniad ynghylch a ddylid tynnu'r cynnig o logi swyddfa at ddefnydd personol yn ôl, y gallai eu disgresiwn fod yn berthnasol i'r diddymu byrrach yn unig. Cytunwyd i dynnu sylw eu grwpiau at y mater ac y byddai'n ddefnyddiol deall safbwynt y Bwrdd Taliadau o ran unrhyw ddefnydd personol o swyddfeydd lleol yn ystod y cyfnod cyn diddymu.

Pe bai angen, pe na bai'r Senedd yn cytuno ar y Bil, cytunodd y Comisiynwyr i gadw at benderfyniad mis Mehefin ynghylch darpariaeth TGCh a chytunodd i’r defnydd o ffonau symudol a ddarperir ar gyfer gweithio gartref yn unol â'r penderfyniad tebyg a nodir uchod.