Cyfarfodydd
P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 20 KB Gweld fel HTML (3/1) 25 KB
- 05.11.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 460 KB
Cofnodion:
Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon
ar gyfer pob plentyn ysgol.
Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu
parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r
disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad
oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau
i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol.
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 211 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 517 KB Gweld fel HTML (2/2) 84 KB
- 21.08.20 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 266 KB
- 22.09.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 291 KB Gweld fel HTML (2/4) 3 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog mewn perthynas â’r ddeiseb hon a P-05-1011, i amlinellu’r pryderon a
godwyd a gofyn pa gynlluniau sydd ar waith nawr, pe bai amgylchiadau’n newid
ymhellach yn ystod tymor yr hydref oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol neu leol,
i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi addysgu o bell neu ar-lein i’r holl
ddisgyblion. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn faint o ddisgyblion yng Nghymru
nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd at ddibenion cyrchu addysgu ar-lein
gartref, yn ôl data’r Llywodraeth.