Cyfarfodydd

P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol.

 

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i nodi bod angen rhoi ystyriaeth bellach i’r ddarpariaeth gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn ystod oriau gweithio craidd yn unrhyw gyfyngiadau symud yn y dyfodol, ac i rannu safbwyntiau’r deisebydd ynghylch sut y dylai awdurdodau lleol fynd ati i gau ysgolion neu orfodi cyfyngiadau symud yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ddarparu ymateb y deisebydd i'w llythyr, ac i ofyn beth yw disgwyliadau'r Llywodraeth o ran darpariaeth gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn ystod y gwyliau haf ac, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd disgwyl i ysgolion ailagor yn llawn ar gyfer tymor yr hydref, gofyn am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth oriau estynedig y disgwylir iddi fod ar gael i weithwyr allweddol.