Cyfarfodydd

P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-856 Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr masnachol 3ydd parti yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru a P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.

         

Nododd y Pwyllgor y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23 Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.

 

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru a P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.

 

Trafododd y Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r fath i wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno.

 

DS. Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021 ar 27 Ionawr 2021.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru a chytunwyd i aros am gyhoeddiad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y camau a gymerir yn dilyn yr adolygiad o reoliadau bridio cŵn, cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach o ran y deisebau.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn erbyn pryd y mae’n disgwyl i'r adolygiad brys o'r rheoliadau bridio cŵn gael ei gwblhau, ac erbyn pryd y caiff penderfyniadau eu gwneud ynghylch sut i symud ymlaen.

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i groesawu'r cyhoeddiad ei bod yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach trydydd parti, a gofyn am fanylion y broses ac amserlenni arfaethedig.

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gadw llygad ar y mater hwn nes gweld canlyniad ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar waharddiad, cyn ystyried unrhyw gamau pellach y gallai fod angen eu cymryd ynghylch y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gofyn iddi ddarparu amserlenni dangosol ar gyfer dod i benderfyniad ar y mater hwn yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhelir cyn hir, ac o ran datblygu unrhyw waith dilynol megis cyflwyno deddfwriaeth; ac

·         aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyn ystyried pa gamau pellach y gall fod eu hangen o ran y ddeiseb, gan gynnwys dadl yn y Cyfarfod Llawn.