Manylion y penderfyniad
Natural Resources Body for Wales (Functions) Order 2013
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bydd y gorchymyn drafft Corff Adnoddau Naturiol
Cymru (Swyddogaethau) 2012 yn trosglwyddo swyddogaethau o gyrff presennol i
Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dyma'r ail Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf
Cyrff Cyhoeddus 2011 sy'n ymwneud â chreu Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cael manylion am ystyriaethau y
Cynulliad o'r Gorchymyn cyntaf i'w weld yma.
Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi
ystyried drafft cynnar o’r gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(Swyddogaethau) 2012, cyn iddo gael ei osod yn ffurfiol gerbron y Cynulliad.
Gosodwyd yr Orchymyn Drafft yn ffurfiol ar 15
Tachwedd 2012.
Bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei ystyried gan y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, a’r Cynulliad mewn cyfarfod llawn.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn PwyllgorAC@wales.gov.uk
neu ar 029 2089 8639.
Dychwelyd
i dudalen gartref y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Dychwelyd
i dudalen gartref y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Dychwelyd
i dudalen gartref y Cyfarfod Llawn
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5191 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft Gorchymyn Corff
Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 yn cael ei gwneud yn unol â’r
fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad