Manylion y penderfyniad
Debate on the Health & Social Care Committee's Inquiry into Residential care for older people in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yn 2012/13. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a
ganlyn:
Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal
preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn
a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
- y broses a
ddilynir gan bobl hŷn wrth
iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn
y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.
- gallu’r
sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan
gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt,
nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.
- ansawdd
gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u
teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion
ymhlith pobl hŷn; a
rheolaeth ar gau cartrefi gofal.
- effeithiolrwydd
trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y
cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.
- darpariaeth
o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg
- y
cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol,
a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir
gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector, a landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig.
Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y
Pwyllgor yn hydref 2011 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Penderfynodd
y Pwyllgor ganolbwyntio’r ymchwiliad ar ofal
preswyl, ond, yn anochel, fe wnaeth trafodion gyffwrdd â materion sy’n
ymwneud â gofal nyrsio. Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwytio ei sylw y
gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn.
Tystiolaeth
gan y
Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth
gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 222KB)
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y testun yma.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd
y Pwyllgor adroddiad (PDF, 1MB) ym mis Rhagfyr 2012. Mae crynodeb
o’r adroddiad (PDF, 139KB) ar gael hefyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 277KB) yn
Chwefror 2013.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar 20
Chwefror 2013.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.00
NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad