Manylion y penderfyniad

Debate on the Children and Young People Committee’s Inquiry into Adoption

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad dilynol i adroddiad y Pwyllgor ar Fabwysiadu, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012.

 

Yn 2012, cynhaliodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ymchwiliad i fabwysiadu.  Diben yr ymchwiliad hwn oedd trafod profiadau a barn y rhai a fu’n rhan o’r broses fabwysiadu.  Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

 

NDM5133 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Fabwysiadu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 9 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2013

Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad