Ymgynghoriad

Ymchwiliad i fabwysiadu

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i fabwysiadu a mae’n awyddus i edrych yn fanwl ar brofiadau’r rheini yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y broses fabwysiadu ac i glywed eu llais, gan gynnwys:

 

Darpar rieni:

  • Pa mor effeithiol yw’r gefnogaeth a roddir i ddarpar rieni drwy’r broses fabwysiadu, yn arbennig drwy’r broses asesu a chymeradwyo?
  • Pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn annog darpar rieni i ddilyn y llwybr mabwysiadu?

 

Rhieni a theuluoedd sy’n mabwysiadu:

  • O ran y gefnogaeth a roddir i deuluoedd sy’n mabwysiadu, beth a fu’r peth pwysicaf i helpu i sicrhau sefydlogrwydd y mabwysiadu ac i sicrhau llwyddiant y lleoliad?
  • Pa welliannau y gellid eu gwneud o ran y gefnogaeth sydd ar gael i rieni sy’n mabwysiadu?

 

Plant a fabwysiadwyd:

  • A yw’r trefniadau presennol ar gyfer mabwysiadu yn adlewyrchu hawliau’r plentyn yn ddigonol?
  • Pa mor effeithiol yw’r gefnogaeth a roddir i blant a fabwysiadwyd ar ôl y mabwysiadu, yn arbennig i blant sydd ag anghenion cymhleth?

 

Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant sy’n cael eu mabwysiadu /teuluoedd sy’n mabwysiadu:

  • Pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosibl yn y broses fabwysiadu?
  • Pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn cynyddu’r nifer o ganlyniadau llwyddiannus unwaith y bydd plant yn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu?
  • Pa mor effeithiol a fu Llywodraeth Cymru wrth fonitro pob achos o fabwysiadu a chadw llygad ar y cynnydd a wnaed ar gyfer y plentyn a’r rhieni?
  • A oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol o arferion da wrth ddarparu gwasanaethau mabwysiadu, a/neu enghreiffitiau o ble y mae angen gweithredu i ddileu’r rhwystrau i fabwysiadu?

 

Gobeithia’r Pwyllgor glywed oddi wrth unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o’r broses fabwysiadu, yn ogystal â chlywed barn gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â chefnogi plant a theuluoedd trwy’r broses. Wrth gynnig ei argymhellion, bydd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth hon ochr yn ochr â’r newidiadau arfaethedig i wasanaethau mabwysiadu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys creu un asiantaeth fabwysiadu genedlaethol, yn ogystal â goblygiadau adolygiad cyfiawnder teuluol Llywodraeth y DU.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o’i rôl.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at CYPCommittee@wales.gov.uk.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

  

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi, a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565