Manylion y penderfyniad
Scrutiny session with the First Minister of Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r dudalen hon
yn dwyn ynghyd feysydd craffu llywodraethol a helpodd i lywio’r amryfal
ymchwiliadau a gynhaliwyd gan bwyllgorau’r Senedd, gan amlaf y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol.
Yn ystod sesiynau
craffu yng nghwmni Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU,
bu’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn:
- monitro’r cynnydd o ran y
trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas
â’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt Cymru.
- nodi unrhyw feysydd a oedd yn
arbennig o berthnasol i Gymru neu a allai fod wedi effeithio ar feysydd
cymhwysedd datganoledig.
Roedd y gwaith
craffu cyffredinol yn canolbwyntio ar ystod eang o feysydd, a oedd yn cynnwys
deddfwriaeth ynghylch ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, materion o ran masnach,
cysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin.
Hefyd, cyhoeddodd
Gwasanaeth Ymchwil Senedd adroddiadau
monitro rheolaidd wrth i’r broses trafodaethau Brexit ddatblygu.
Rhoddodd pob
adroddiad grynodeb o’r datblygiadau, gan gynnwys y dogfennau a’r ddeddfwriaeth
ddiweddaraf. Roeddent hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r prif faterion sydd o
ddiddordeb i’r Pwyllgor Materion Allanol a chrynodeb o ymateb Llywodraeth Cymru
i’r datblygiadau diweddaraf hynny.
Penderfyniadau:
2.1 Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan yr
Aelodau.
Dyddiad cyhoeddi: 27/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu