Manylion y penderfyniad

Debate on the Children, Young People and Education Committee report on Supply Teaching

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi. Cyhoeddwyd yr adroddiad (PDF, 1.3MB) ar ymchwiliad y Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2015.  Cyhoeddwyd ymateb (PDF, 397KB) Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 3 Chwefror 2016.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ymatebion yr ymgynghoriad yma.

 

Arolwg

Fel rhan o'r ymchwiliad, roedd y Pwyllgor hefyd am wybod a oedd y defnydd o athrawon cyflenwi yn effeithio ar ddisgyblion, ac os oedd, ym mha ffordd. Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg ar gyfer pobl ifanc ac arolwg ar gyfer rhieni a gofalwyr. Cyhoeddwyd crynodeb o ganlyniadau'r (PDF, 1MB) arolwg hefyd ar 16 Rhagfyr 2015.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

NDM5951 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2015.

Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 3 Chwefror 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2016

Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad