Manylion y penderfyniad

Employment Opportunities for People Over 50

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i gyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed.

 

Cylch gorchwyl

 

  • Y rhwystrau sy'n wynebu pobl dros 50 oed wrth iddynt geisio ailymuno â'r farchnad lafur
  • Y graddau y ceir gwahaniaethu ar sail oed a'r effaith ar recriwtio pobl dros 50 oed
  • A oes unrhyw anfanteision pan fo pobl dros 50 oed yn ailymuno â'r farchnad lafur
  • Effeithiolrwydd Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-23 wrth helpu pobl dros 50 oed i gael gwaith
  • Y cymorth sydd fwyaf effeithiol i bobl dros 50 oed sy'n ceisio ailymuno â'r farchnad lafur (yn benodol, rhaglenni a phrosiectau).

 

Fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn, roedd y Pwyllgor wedi ystyried:

 

  • Argaeledd ac addasrwydd cyfleoedd swyddi lleol
  • Yr angen am gymorth perthnasol a hyfforddiant sgiliau
  • Anawsterau o ran trafnidiaeth, gan gynnwys argaeledd a chost (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig)
  • Diffyg hyder (er enghraifft, ar ôl dileu swyddi)
  • Helpu a chynorthwyo pobl sydd â heriau ychwanegol (er enghraifft, y rhai sydd ag anabledd)
  • Y rhwystrau posibl i bobl dros 50 oed gael gafael ar gyflogaeth oherwydd cyfrifoldebau gofalu (er enghraifft, gofalu am rieni hŷn)
  • Rôl pobl dros 50 oed wrth fentora gweithwyr iau a throsglwyddo eu sgiliau a'u gwybodaeth
  • Sut y gall pobl dros 50 oed sy'n ailymuno â'r farchnad lafur effeithio ar nifer y swyddi a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael i weithwyr iau
  • Helpu'r rhai mewn ardaloedd lle y mae lefel uchel o ddiweithdra
  • Effaith a gwerth am arian cyllid Ewropeaidd.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Penderfyniadau:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 Oed.

Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2015

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/10/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol:

  • Cyfyngedig