Manylion y penderfyniad
Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil
Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Mick Antoniw AC. Roedd Mick Antoniw AC yn
llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 21 Mawrth 2012. Cafodd ganiatâd gan y
Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Fil ar 16 Mai 2012. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi
ailgyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol.
Gwybodaeth am y Bil
Prif ddiben y Bil, pan gyflwynwyd ef, oedd galluogi Gweinidogion Cymru i
adennill oddi wrth ddigolledwr (sef person sy'n gwneud taliadau digolledu neu
sy'n eu gwneud ar ei ran, i neu ar gyfer dioddefwr clefyd sy'n ymwneud ag
asbestos), gostau penodol sy'n dod i ran y GIG yng Nghymru wrth ddarparu gofal
a thriniaeth ar gyfer dioddefwr y clefyd sy'n ymwneud ag asbestos.
Cyfnod presennol
Mae’r Bil wedi bod trwy Gyfnod 4. Ceir esboniad o beth sy’n digwydd ym mhob
cyfnod yma.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ohirio dadl Cyfnod 3 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer
Clefydau Asbestos (Cymru) tan yn ddiweddarach. Cafodd y gwelliannau eu
hystyried a’u gwaredu ar 20 Tachwedd 2013.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy
Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
Cyflwyno'r Bil – 3 Rhagfyr 2012 |
Datganiad
y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 3 Rhagfyr 2012 Adroddiad
y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y BiI Datganiad
yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau
Asbestos (Cymru): 5 Rhagfyr 2012 |
|
Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol: 20 Chwefror 2013 (preifat) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
|
|
Penderfyniad Ariannol |
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil
Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yn y Cyfarfod
Llawn ar 19
Mawrth 2013. |
|
Cofnodion Cryno: 24
Ebrill 2013. Bil
Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), fel y’i
diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol
eu nodi ar ochr dde’r dudalen.) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 15 Ebrill 2013 Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 17 Ebrill 2013 Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli: 24 Ebrill 2014 Grwpio
Gwelliannau: 24 Ebrill 2014 Memorandwm
Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 |
|
Gohebiaeth
rhwng Cymdeithas Yswirwyr Prydain a’r Llywydd Gohebiaeth
ymhellach rhwng Cymdeithas Yswirwyr Prydain a’r Llywydd – Tachwedd 2013
(Saesneg yn Unig)
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 29 Mai 2013 Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 7 Tachwedd 2013 Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli: 20 Tachwedd 2013 Grwpio
Gwelliannau: 20 Tachwedd 2013 |
|
|
|
Gwnaeth y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar yr achos ar 9
Chwefror 2015. Daeth i’r casgliad nad oes gan y Cynulliad gymhwysedd
deddfwriaethol i ddod â’r Bil i rym ar ei ffurf bresennol. Mae manylion ar
gael yma (gwefan allanol). O dan Reol Sefydlog 26.53, gallai unrhyw Aelod o’r
Cynulliad gynnig y bydd y Bil yn symud ymlaen i’r Cyfnod Ailystyried. Mae
eglurhad o beth sy’n digwydd yn holl gyfnodau Biliau’r Cynulliad ar gael. Mae'r Bil hwn
wedi methu ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad ac ni chynhelir unrhyw drafodion
pellach ar y Bil hwn (Rheol Sefydlog 26.76) |
Gwybodaeth gyswllt
Rhif ffôn: 0300 200 6565
E-bost: Cysylltu@Cynulliad.Cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Yn
unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y
mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion
y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl
y grwpiau a ganlyn:
1. Atebolrwydd
11,
13
2. Gofal
Lliniarol
4
3. Gwasanaethau
a eithrir
5,
6, 10
4. Y cyfnod
amser ar gyfer adennill costau
7
5. Apelau
a hawlildiadau
1,
2, 3
6. Defnyddio
Gwybodaeth
12
7. Defnyddio
symiau a ad-delir
14,
15
8. Pŵer
i atal y Ddeddf dros dro
8,
9
Cynhaliwyd
y bleidlais yn y drefn a nodir yn
y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:
Derbyniwyd
gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
26 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
26 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 6 ac 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd
gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd
gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd
gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd
gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Derbyniwyd
gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
1 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gan fod gwelliant 8 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion
Cyfnod 3 i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad