Rhesymau wedi'u cyfyngu
Yn rhinwedd paragraff(au) i, ii, v, vii, viii o Reol Sefydlog 17.42
Esboniad o resymau
- Yn rhinwedd paragraff i
lle mae cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch gwladol, ymchwiliad i anghyfreithlondeb honedig, effeithiolrwydd gwaith gorfodi'r gyfraith neu weinyddu cyfiawnder yn briodol yn ei gwneud yn ofynnol i'r trafodion gael eu cynnal yn breifat
- Yn rhinwedd paragraff ii
lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb ddatgelu gwybodaeth bersonol am unigolion penodol sydd wedi'u hadnabod neu y gellir eu hadnabod ac na ddylid ei datgelu
- Yn rhinwedd paragraff v
lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb gyfeirio at ddeunydd a fyddai, yn àl pob tebyg, yn cael ei ystyried yn ddeunydd sy'n difenwi unrhyw berson
- Yn rhinwedd paragraff vii
lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb ddatgelu naill ai cyngor cyfreithiol a roddwyd yn gyfrinachol, neu wybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol gan berson neu gorff (gan gynnwys awdurdod cyhoeddus) neu mewn gohebiaeth gyfrinachol ag ef nad oedd o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu'r wybodaeth honno ac nad yw wedi cydsynio i'w datgelu i'r cyhoedd
- Yn rhinwedd paragraff viii
lle nad oes modd trafod eitem benodol o fusnes heb gyfeirio at ddogfen neu ddogfennau a gâi eu gwahardd neu eu hesemptio rhag cael eu datgelu o dan ddeddfwriaeth; neu