Gyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru

Gyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru

wedi'i gwblhau

Sefydlwyd Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn 2009 ac mae wedi datblygu cynlluniau i greu clwstwr modurol o amgylch cylchffordd rasio a gynlluniwyd ar gyfer cynnal digwyddiadau chwaraeon modur rhyngwladol. Roedd cynlluniau i leoli’r trac rasio ychydig i’r gogledd o ystâd ddiwydiannol Rasa yng Nglynebwy, gyda’r nod o ddenu amrywiaeth o ddigwyddiadau rasio dwy a phedair olwyn, gan gynnwys Moto GP, a tharged i ddenu tri chwarter miliwn o ymwelwyr y flwyddyn o fewn tair i bum mlynedd i’w agor. Roedd y datblygwr yn rhagweld y byddai’r prosiect yn creu 300 o swyddi cyfwerth ag amser llawn, gan gynnwys 49 o swyddi amser llawn a 3,500 o staff rhan-amser dros dro ar gyfer digwyddiadau. Hefyd, byddai cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu yn ystod y ddwy flynedd y byddai’n ei gymryd i adeiladu’r trac.

 

Cafodd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â’r prosiect arfaethedig ac mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal archwiliad yn dilyn materion a nodwyd, gan gyhoeddi adroddiad ym mis Ebrill 2017. Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad a chyhoeddodd adroddiad ym mis Mai 2018. Cynhaliwyd ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Gorffennaf 2018. Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru yn ystod tymor yr hydref 2018.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

Llywodraeth Cymru

26 Mehefin 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1 (PDF 563KB)

Gwylio Sesiwn Dystiloaeth 1 ar Senedd TV

Llywodraeth Cymru

5 Chwefror 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiloaeth 2 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau