P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad llawn ac annibynnol i effeithiau meysydd
electromagnetig a gaiff eu creu a’u hallyrru gan dechnolegau diwifr, mastiau
ffôn, ffonau symudol a dyfeisiau eraill sy’n allyrru amledd ac offer domestig,
ar iechyd a lles cyffredinol pobl a byd natur. Ceir corff sylweddol o
dystiolaeth bellach sy’n dangos y gall amlygiad cyson i draffig modern o ran
meysydd electromagnetig fod yn niweidiol, gan achosi niwed i DNA a chelloedd y
corff, gan effeithio ar allu’r system imiwnedd i weithio, ac achosi risg uwch o
ganser a diffyg ffrwythlondeb - ac mae plant yn arbennig o agored i’r
effeithiau niweidiol hyn.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae Cyngor Ewrop, Sefydliad Iechyd y Byd, Cyngres Undebau
Llafur y DU, Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, y Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer
Diogelwch Electromagnetig a llywodraeth Rwsia, llywodraeth yr Almaen a
llywodraeth Israel oll am fynd i’r afael â’r risgiau iechyd hyn ac maent am
weld mesurau ymarferol yn cael eu cyflwyno, fel defnyddio rhwydweithiau
gwifredig mewn ysgolion yn lle technoleg ddi-wifr. Gallai Llywodraeth Cymru
hefyd arwain y ffordd yn hyn o beth a diogelu iechyd dinasyddion Cymru yn y
dyfodol drwy wneud ei gwaith ymchwil annibynnol ei hun, yn ogystal ag
ymgynghori â sefydliadau annibynnol, fel Powerwatch a WiFiinschools, all gynnig
corff sylweddol o waith ymchwil ac sy’n cynghori’n gryf y dylid dilyn
egwyddorion rhagofalus.
Prif
ddeisebydd: Cymru
Sofren / Sovereign Wales
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Nifer
y llofnodion: 11
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014