P-04-552 Diogelu Plant
P-04-552 Diogelu Plant
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu a
chryfhau meini prawf diogelu plant ac ystyried sefydlu corff rheoleiddio ar
gyfer Cymru Dylai hwn geisio sicrhau bod y rhai syn
gyfrifol am blant, pun ai mewn ysgolion, clybiau
ieuenctid neu elusennau syn canolbwyntion bennaf ar blant, neun bobl syn dod i gysylltiad â nhw neun
syn cael eu gwahodd atynt fel noddwyr, llywodraethwyr,
cenhadon, swyddogion cyhoeddus neu unrhyw un a benodir gan elusennau plant yn
cael eu hasesu i benderfynu a ywn addas iddynt weithio
gyda phlant neu ou hamgylch.
Gwybodaeth ychwanegol: Ar hyn o bryd, nid ywr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn archwilio cefndir cynghorwyr lleol, cynghorwyr
sir nar rhai a benodir yn genhadon neun gadeiryddion elusennau plant. Mae rhwydd hynt ir rhain ddod i gysylltiad â
phlant oherwydd eu swyddi. O ystyried achosion Jimmy Saville ac Ian Watkins, a
wnaiff Llywodraeth Cymru yn awr gydnabod na allwn bellach dderbyn pobl yn
gibddall ar sail eu henwogrwydd neu eu safle cymdeithasol a chaniatáu iddynt
ymwneud â phlant.
Prif
ddeisebydd: Montessori Centre
Wales
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Nifer y
llofnodion: 40
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014