P-04-552 Diogelu Plant

P-04-552 Diogelu Plant

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu a chryfhau meini prawf diogelu plant ac ystyried sefydlu corff rheoleiddio ar gyfer Cymru Dylai hwn geisio sicrhau bod y rhai syn gyfrifol am blant, pun ai mewn ysgolion, clybiau ieuenctid neu elusennau syn canolbwyntion bennaf ar blant, neun bobl syn dod i gysylltiad â nhw neun syn cael eu gwahodd atynt fel noddwyr, llywodraethwyr, cenhadon, swyddogion cyhoeddus neu unrhyw un a benodir gan elusennau plant yn cael eu hasesu i benderfynu a ywn addas iddynt weithio gyda phlant neu ou hamgylch.

Gwybodaeth ychwanegol: Ar hyn o bryd, nid yw
r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn archwilio cefndir cynghorwyr lleol, cynghorwyr sir nar rhai a benodir yn genhadon neun gadeiryddion elusennau plant. Mae rhwydd hynt ir rhain ddod i gysylltiad â phlant oherwydd eu swyddi. O ystyried achosion Jimmy Saville ac Ian Watkins, a wnaiff Llywodraeth Cymru yn awr gydnabod na allwn bellach dderbyn pobl yn gibddall ar sail eu henwogrwydd neu eu safle cymdeithasol a chaniatáu iddynt ymwneud â phlant.

 

Prif ddeisebydd:  Montessori Centre Wales

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014

 

Nifer y llofnodion: 40

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014