P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion
P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn
galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i bob disgybl gael hyfforddiant
Cymorth Cyntaf sylfaenol yn ystod eu blynyddoedd TGAU.
Rydym yn credu bod cymorth cyntaf yn sgil achub bywyd hanfodol y mae gan bob
person ifanc yr hawl i’w gael. Felly, dylai ddod yn rhan orfodol o addysg
uwchradd. Gall cael hyfforddiant cymorth cyntaf gario llawer o gyfrifoldeb ond
mae llawer o fuddion iddo. Mewn sefyllfaoedd peryglus gall hyfforddiant cymorth
cyntaf wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Felly, gall gwybod sut i
roi rhywun yn yr ystum adfer neu sut i ffonio ambiwlans yn effeithiol achub
bywydau.
Prif
ddeisebydd: Tim
Clarke
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Nifer y
llofnodion: 11
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014