P-04-550 Pwerau Cynllunio
P-04-550 Pwerau Cynllunio
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gellid defnyddio pwerau cynllunio
datganoledig i wneud defnydd buddiol o safleoedd gwag neu segur.
Rydym yn poeni’n arbennig y gallai safleoedd gwag neu segur fel yr hen Kwik
Save yn Llaneirwg, Caerdydd fod yn falltod ar gymunedau a denu ymddygiad
gwrthgymdeithasol.
Hoffem i’r ymchwiliad ystyried a yw’r pwerau presennol i gymryd camau yn erbyn
perchenogion tir gwag neu segur yn ddigonol, gan gynnwys y potensial i orfodi
perchenogion i weithredu ar eu traul eu hunain i gael gwared ar safleoedd hyll
neu strwythurau segur.
Rydym yn galw am gynnal ymchwiliad cyn i’r Cynulliad basio’r Bil Cynllunio
arfaethedig.
Prif
ddeisebydd: St
Mellons Action Group
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014
Nifer
y llofnodion: 41
Trafodwyd
y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014