Cyllid strwythurol yr UE

Cyllid strwythurol yr UE

Nododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilydd Cymru, ‘Cronfeydd Strwythurol yr UE,’ a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2014. Roedd yr adroddiad yn archwilio sut y cafodd rhaglenni ariannu strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) eu gweinyddu yng Nghymru rhwng 2007 a 2013. Fel yr ‘Awdurdod Rheoli’, caiff y rhaglenni hyn eu rheoli gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), un o adrannau Llywodraeth Cymru, a chânt eu monitro gan y Pwyllgor Monitro Rhaglenni. Caiff prosiectau unigol eu goruchwylio gan sefydliad sy’n ‘noddi’r prosiect’ ond gall gynnwys nifer o gyrff eraill sy’n gweithio mewn partneriaeth. 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2014